Skip to main content

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 

Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020:

  • wedi newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i “Senedd Cymru” neu “Welsh Parliament” ac yn gwneud newidiadau cysylltiedig (gan gynnwys deddfwriaeth arall)
  • wedi gostwng yr oedran isaf ar gyfer pleidleisio yn etholiadau’r Senedd i 16 ac yn rhoi’r hawl i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau’r Senedd
  • wedi gwneud newidiadau i’r gyfraith ar anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd
  • wedi gosod dyletswydd ar y Senedd i ystyried y trefniadau ariannol a’r trefniadau ar gyfer goruchwylio gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru
  • wedi ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad, ac
  • wedi egluro pwerau Comisiwn y Senedd i godi am nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r Nodiadau Esboniadol  i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

  • Daeth y darpariaethau sydd wedi’u rhestru yn adran 42(1)  o’r Deddf i rym ar 15 Ionawr 2020, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. 
  • Daeth Rhan 2 (adrannau 2 i 9 ac Atodlen 1) i rym ar 6 Mai 2020, yn unol ag adran 42(2)
  • Daeth adrannau 12 i 26 i rym ar 1 Mehefin 2020, yn unol ag adran 42(3)(a)
  • Mae adran 42(3)(b) yn darparu bod adran 28 ac Atodlen 2 yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi’i wneud: Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020
  • Daeth adran 36 o Ran 5 i rym ar 6 Mai 2021, sef diwrnod yr Etholiad cyntaf i’r Senedd pan gynhaliwyd y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021, yn unol ag adran 42(5).

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Elin Jones AC, Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad ar 12 Chwefror 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 27 Tachwedd 2019.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio a’i osod gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2020).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Deddf Senedd ac Etholiadau 2020

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Awst 2023