Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd i Gymru. Mae’r cynllun yn darparu bod awdurdodau bwyd yng Nghymru yn arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ardaloedd yr awdurdodau ac yn llunio sgoriau hylendid bwyd y sefydliadau hynny.
Mae sgôr hylendid bwyd i’w lunio drwy sgorio safonau hylendid bwyd sefydliad yn erbyn meini prawf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“ASB”).
Caiff sefydliad busnes bwyd apelio yn erbyn ei sgôr hylendid bwyd a gwneud sylwadau amdani.
Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad yn ei ardal, a rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr.
Rhaid i sefydliad busnes bwyd hysbysu’r cyhoedd am ei sgôr hylendid bwyd.
Mae methu â hysbysu’r cyhoedd yn drosedd, y gellid ei chosbi drwy ddirwy neu gosb benodedig.
O dan amgylchiadau penodol caiff sefydliad busnes bwyd ofyn am ail-bennu ei sgôr.
Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi pwerau a chyfrifoldebau awdurdodau bwyd a’r ASB a chyfrifoldebau gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adran 27 (Cychwyn) i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn sydd i’w wneud gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 27(2).
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
• Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014
• Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 | 2016 Rhif 429 (Cy. 138) | 18 Mawrth 2016 | 28 Tachwedd 2016 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 | 2013 Rhif 2903 (Cy. 282) | 12 Tachwedd 2013 | 28 Tachwedd 2013 Daeth Rheoliad 8 i rym ar 28 Tachwedd 2014. | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 28 Mai 2012 gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 22 Ionawr 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Mawrth 2013.