Deddf Tai (Cymru) 2014
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) wedi ei rhannu yn 9 Rhan:
- Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn rheoleiddio y gosod anheddau o dan fathau penodol o denantiaethau a rheolaeth anheddau sy’n destun tenantiaethau o’r, drwy system gofrestru a thrwyddedu. Mae hefyd yn nodi’r gofynion ar gyfer landlordiaid a phersonau sy’n gweithredu ar ran landlord;
- Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn canolbwyntio ar Ddigartrefedd. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig;
- Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i awdurdodau tai lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn eu hardal. Yna rhaid i’r awdurdod tai lleol lunio adroddiad a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth arall gysylltiedig;
- Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn datgan y caiff Gweinidogion Cymru bennu safonau y mae’n rhaid i awdurdodau tai lleol eu cyrraedd o ran: safon y llety a ddarperir gan awdurdodau tai lleol fel tai; rhent ar gyfer llety o’r fath; a’r taliadau gwasanaeth ar gyfer llety o’r fath. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth arall gysylltiedig;
- Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer dileu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a darpariaeth arall gysylltiedig;
- Mae Rhan 6 yn diwygio Atodlen 1 a 2 o Ddeddf Tai 1988 er mwyn caniatáu cymdeithasau tai cwbl gydfeddiannol i roi tenantiaethau sicr;
- Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn ymwneud â swm y dreth gyngor sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o annedd. Mae’n diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 192 i adlewyrchu’r newidiadau hyn yng Nghymru;
- Mae Rhannau 8 a 9 yn gwneud darpariaethau eraill cysylltiedig sy’n fwy cyffredinol eu natur.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adrannau 142 i 143 a 145 i 146 i rym ar 17 Medi 2014 (y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol) yn unol ag adran 145(1).
Daeth adrannau 132 i 136 yn Rhan 5 (Cyllid Tai) i rym ar ôl diwedd y cyfnod o 2 fis ar ol y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 145(2).
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 145(3). Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 10) 2019
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 9) 2019
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 8) 2016
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 7) 2016
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 6) 2016
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015
- Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 18 Tachwedd 2013 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 8 Gorffennaf 2014.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014.