Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Mae’r Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth—
- ar gyfer mapiau a gymeradwyir o lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
- ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig a gymeradwyir o’r llwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig y mae eu hangen i greu rhwydweithiau integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
- sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth lunio polisïau trafnidiaeth ac i sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell,
- sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar deithio llesol yng Nghymru,
- sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill, ac
- sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daw adrannau 3 i 11 i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wnaed drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 14(1).
Mae’r gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Gorchymyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2014
Daeth darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar 5 Tachwedd 2013, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 14(2).
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil ar 18 Chwefror 2013 gan Carl Sargeant AC, sef y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, i fod yr Aelod newydd â chyfrifoldeb am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 1 Hydref 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
• Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol | LLYW.CYMRU
• Teithio llesol | Trafnidiaeth Cymru
• Erthygl gan Senedd Ymchwil: Y Ddeddf Teithio Llesol bum mlynedd yn ddiweddarach – beth fydd hyd y daith?