Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025
Nod Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yw lleihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau ar domenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo nas defnyddir drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.
Yn gryno, mae Deddf 2025:
- yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (“yr Awdurdod”) fel corff corfforedig. Rhaid i’r Awdurdod arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf gyda golwg ar sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd,
- yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir,
- yn gosod gofynion arolygu ar yr Awdurdod mewn cysylltiad â thomenni nas defnyddir, categori 1 a 2,
- yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ddelio ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath,
- yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod sefydlu a chynnal gwefan,
- yn cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad i’r Awdurdod, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, ac
- yn creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r drefn.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Mae adran 92(1) yn darparu bod Rhan 5 o Ddeddf 2025 yn dod i rym drannoeth y Diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Felly, daeth darpariaethau Rhan 5 i rym ar 12 Medi 2025.
Mae adran 92(2) yn darparu y bydd adrannau 1, 2 a 5 ac Atodlen 1 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.
Yn unol ag adran 92(3), bydd holl ddarpariaethau eraill Deddf 2025 yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
[I’w hychwanegu pan fydd wedi ei gwneud]
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 9 Rhagfyr 2024 gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Fe’i pasiwyd gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 11 Medi 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2025 ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025.