Skip to main content

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Diben Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yw gwella—

  • trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
  • trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
  • y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol sy’n cynnwys amcanion sy’n cyfrannu at ddiben y Ddeddf hon, amserlenni ar gyfer cyflawni’r amcanion hynny a’r camau sydd i’w cymryd i’w cyflawni. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i weithredu’r strategaeth genedlaethol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i lunio strategaethau lleol i gefnogi’r strategaeth genedlaethol ac yn amlinellu’r materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth eu llunio a’u hadolygu. Mae dyletswydd hefyd ar y cyrff hyn i weithredu eu strategaethau lleol.

Rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth o ran a yw eu swyddogaethau addysg yn hybu diben y Ddeddf ac os ydynt, sut y maent yn gwneud hynny.

Gwneir darpariaeth hefyd i Weinidogion Cymru benodi cynghorydd i’w cynghori a’u cynorthwyo i gyflawni diben y Ddeddf hon.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth adrannau 1 a 24 i 26 i rym ar 29 Ebrill 2015, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 25(1). Daeth adran 10 ac adrannau 14 i 21 i rym ddeufis ar ôl hynny, yn unol ag adran 25(2). 

Daw gweddill darpariaethau'r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 25(3). Mae'r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hyd yn hyn.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 30 Mehefin 2015 gan Lesley Griffiths AS, sef y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Medi 2014, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, i fod yr Aelod newydd â chyfrifoldeb am y Bil, o 12 Medi 2014. Cafodd y Ddeddf ei phasio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Mawrth 2015.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Ionawr 2024