Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013
Prif ddarpariaethau Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yw:
- gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu;
- darparu bod gweithgareddau penodol a wneir yng Nghymru at ddiben trawsblannu yn gyfreithlon os rhoddwyd cydsyniad iddynt;
- nodi sut y caiff cydsyniad ei roi i weithgareddau trawsblannu, gan gynnwys yr amgylchiadau lle ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig;
- ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad;
- gwneud diwygiadau i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chod ymarfer sy’n:
- rhoi canllawiau ymarferol i bersonau sy’n cyflawni gweithgareddau trawsblannu, a
- gosod y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â chyflawni’r gweithgareddau hynny, gan gynnwys sut y mae cydsyniad i’w gael.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 2, 21 a 22 i rym ar 10 Medi 2013, sef y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 21(4).
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion, yn unol ag adran 21(1).
Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 | 2015 Rhif 1775 (Cy. 247) | 7 Hydref 2015 | 1 Rhagfyr 2015 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 | 2015 Rhif 1774 (Cy. 246) | 7 Hydref 2015 | 1 Rhagfyr 2015 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 | 2015 Rhif 1760 (Cy. 244) | 7 Hydref 2015 | 1 Rhagfyr 2015 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn hwn:
The Human Transplantation (Wales) Act 2013 (Consequential Provision) Order 2015
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 3 Rhagfyr 2012 gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, i fod yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013.
Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Gorffennaf 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
Canllawiau - Rhoi organau a meinwe (LLYW.CYMRU)