Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
Mae Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (y Ddeddf) yn cyflwyno treth newydd, sef y dreth gwarediadau tirlenwi, sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy. Mae’n disgrifio o dan ba amodau y caiff gwarediad trethadwy ei wneud. Mae’r Ddeddf hefyd:
- yn egluro sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir mewn safle tirlenwi awdurdodedig, gan gynnwys sut i gyfrifo’r swm, pryd y gellir hawlio rhyddhad, y gofynion cofrestru a chyfrifo, a sut i dalu’r dreth;
- yn egluro sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig, gan gynnwys sut i gyfrifo’r swm, pwy sy’n atebol am ei thalu, sut y mae i’w chodi, sut y mae i’w thalu, a llog taliadau hwyr ar dreth heb ei thalu;
- yn gwneud darpariaeth ategol, gan gynnwys galluogi rheoliadau i gael eu gwneud am gredyd treth, creu ardaloedd heb fod at ddibenion gwaredu mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig, archwilio eiddo a rhannu gwybodaeth, cosbau, cymhwyso’r Ddeddf mewn achosion arbennig, a materion amrywiol eraill;
- yn gwneud darpariaeth am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi; ac
- yn gwneud darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon, gan gynnwys ei dehongli.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth Rhan 1 a Rhan 6 i rym ar 8 Medi 2017, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 97(1).
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 97(2).
Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017
- Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil ar 28 Tachwedd 2016 gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017.
Deunyddiau cysylltiedig
• Adolygiad Annibynnol o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: crynodeb | LLYW.CYMRU
• Treth Gwarediadau Tirlenwi | Is-bwnc | LLYW.CYMRU