Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
Mae Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (y Ddeddf) yn gosod treth ar drafodiadau tir sy’n digwydd yng Nghymru. Yr enw a roddir arni yw’r “dreth trafodiadau tir” ac mae’n effeithio ar bobl sy’n prynu eiddo preswyl i fyw ynddo, yn ogystal â phersonau sy’n caffael eiddo amhreswyl (fel rhan o fusnes, er enghraifft).
Gwneir darpariaeth ynglŷn â’r prif gysyniadau sy’n sail i’r dreth, gan gynnwys:
- pa drafodiadau sy’n cyfrif fel trafodiadau tir;
- beth yw buddiant trethadwy a pha bryd y mae’n gymwys;
- pa drafodiadau tir y caiff y dreth ei chodi arnynt;
- bandiau a chyfraddau treth;
- sut i gyfrifo’r dreth;
- y mathau o ryddhad sydd ar gael rhag y dreth.
Mae’r Ddeddf yn egluro sut y mae’r dreth yn gymwys i lesoedd, ac i gwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau. Mae hefyd yn egluro pa bryd a phwy y mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd ffurflenni a gwneud taliadau i Awdurdod Cyllid Cymru. Gwneir darpariaeth hefyd i wrthweithio trefniadau i osgoi trethi datganoledig.
Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael yn y Nodiadau Esboniadol.
Dod i rym
Daeth Rhan 8 o’r Ddeddf (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar 25 Mai 2017, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 81(1). Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 81(2). Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017
- Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi gwneud y gorchymyn hwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil ar 12 Medi 2016 gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 4 Ebrill 2017.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2017.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
- Adolygiad annibynnol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (crynodeb)
- Cyhoeddiad newydd: – Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 – Crynodeb o’r Ddeddf