Skip to main content

Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026

 

Mae Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026 (“Deddf 2026”) yn gwneud diwygiadau i’r maen prawf cymhwyso ar gyfer aelodaeth feddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; ac yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol gysylltiedig ynghylch dilysrwydd penodiadau blaenorol i’r Tribiwnlys hwnnw ac aelodaeth ohono.
 

Mae Deddf 2026: 

yn darparu bod rhaid i aelodau meddygol o’r Tribiwnlys hwnnw fod yn ymarferwyr meddygol cofrestredig (a ddiffinnir fel person cofrestredig llawn o fewn ystyr Deddf Meddygaeth 1983), ond nad oes angen iddynt ddal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau hyfforddiant a gynhelir gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan adran 60(5)(a) o Ddeddf Cymru 2017 ar gyfer aelodau meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru nad ydynt yn dal trwyddedau i ymarfer o dan Ddeddf Meddygaeth 1983;

yn gosod dyletswydd arall ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad o’r adolygiad heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym.


Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol (darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fydd ar gael; gweler hefyd y Memorandwm Esboniadol, isod).
 

Dod i rym

 

Yn unol ag adran 3 o Ddeddf 2026, daeth holl ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 22 Ionawr 2026. Nid oedd unrhyw orchmynion cychwyn yn ofynnol.

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2026
 

Nid yw Deddf 2026 yn cynnwys unrhyw bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
 

Cafodd y Bil ei gyflwyno i’r Senedd o dan weithdrefnau brys ar 13 Ionawr 2026 gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 14 Ionawr 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Ionawr 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026.



Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
 

Gwybodaeth ynghylch Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (LLYW.CYMRU)

https://www.llyw.cymru/tribiwnlys-adolygu-iechyd-meddwl-cymru 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Ebrill 2026