Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020
Mae Deddf y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 (y Ddeddf) yn diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i roi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn sefydlu ‘Cynllun Atebolrwyddau Presennol) (CAP). Pwrpas y cynllun yw indemnio meddygon teulu yng Nghymru rhag hawliadau hanesyddol o esgeuluster clinigol sy’n ymwneud â gofal a roddwyd cyn 1 Ebrill 2019. Bwriedir i’r CAP ategu’r Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol sydd ar gyfer hawliadau sy’n codi ar ôl 1 Ebrill 2019.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth y Ddeddf i rym ar 27 Medi 2020, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 2.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud o dan y Ddeddf hon.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Vaughan Gethin AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 14 Hydref 2019, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 14 Ionawr 2020.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2020.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
Lluniodd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd Grynodeb o’r Bil ym mis Ionawr 2020, sy’n egluro’r gofynion i feddygon teulu gael eu hindemnio, ymysg pethau eraill.