Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn cyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Gwneir hyn drwy roi camau yn eu lle er mwyn ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf.
Yn gryno, o ran Deddf 2025:
- bydd yn ei gwneud yn ofynnol i strategaeth y Gymraeg gynnwys targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, o leiaf, erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
- bydd yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd;
- mae’n nodi bod tri chategori iaith statudol ar gyfer ysgolion (“Prif iaith – Cymraeg”, “Dwy Iaith”, a “Prif iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi’r categorïau iaith hynny, ynghyd â gofynion o ran isafswm yr addysg Gymraeg a ddarperir a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;
- bydd yn cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel sirol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);
- bydd yn sefydlu corff newydd, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Mae adran 56(1) yn darparu bod adran 1(1)(a) ac adran 1(4) (at ddibenion adran 1(1)(a)) a Rhan 6 (ac eithrio adran 49) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff Deddf 2025 y Cydsyniad Brenhinol – sef, mewn geiriau eraill, 8 Gorffennaf 2025.
Mae adran 56(2) yn darparu bod adrannau 1(5) a 5 ac Atodlen 1 yn dod i rym ddau fis ar ôl i Ddeddf 2025 gael y Cydsyniad Brenhinol, ar 7 Medi 2025.
Mae adran 56 hefyd yn darparu bod Rhan 5 ac Atodlen 2 mewn perthynas â’r Athrofa Genedlaethol yn dod i rym ar 1 Awst 2027.
Daw darpariaethau eraill Deddf 2025 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
[I’w hychwanegu pan fydd wedi ei gwneud]
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 15 Gorffennaf 2024 gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 13 Mai 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2025 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025.