Skip to main content

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Daeth Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Deddf 2024) yn gyfraith ar 14 Chwefror 2024.

Nod Deddf 2024 yw ceisio gwella ansawdd amgylcheddol ein aer a lleihau effeithiau llygredd sy’n cael ei gludo gan aer ar iechyd pobl, ar natur, ar yr amgylchedd ac ar ein economi.

Mae Deddf 2024 yn creu fframwaith sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i osod targedau o ran ansawdd aer. Mae hefyd yn diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol ar ansawdd aer o ran rheoli ansawdd aer yn lleol, codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, osgoi gadael yr injan yn segura a rheoli mwg, fel y gwna Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau i iechyd pobl ac i’r amgylchedd naturiol yn sgil llygredd aer, a ffyrdd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer.

Mae Deddf 2024 hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hybu teithio llesol fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd yn yr aer ac mae’n gwneud darpariaeth i’r ddyletswydd hon gael ei gosod ar awdurdodau cyhoeddus eraill drwy reoliadau. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio strategaeth genedlaethol ar seinweddau.

Dod i rym 

Daeth Rhan 3 o Ddeddf 2024 i rym ar 15 Chwefror 2024, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol. Daw adrannau 1-6, 8-10, 12-15, 22-27 ac Atodlen 2 i rym ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, a daw’r darpariaethau sy’n weddill i rym drwy orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 30. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw orchmynion cychwyn hyd yn hyn. 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Chwefror 2024.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 28 Tachwedd 2023.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).

Erthyglau a deunyddiau cysylltiedig 

Yn unol ag adran 25 o Ddeddf 2024, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar seinweddau. Ar adeg ysgrifennu’r dudalen hon, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar strategaeth bum mlynedd i Gymru, a chaiff strategaeth genedlaethol ei chyhoeddi maes o law. 
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Mai 2024