Skip to main content

Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026

 

Mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn sefydlu fframwaith ar gyfer llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn ceisio mynd i’r afael â thair her graidd, sef: brwydro yn erbyn effaith gyfunol yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, diogelu’r amgylchedd rhag niwed, ac ymateb i newidiadau o ran strwythurau llywodraethu amgylcheddol yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE.

  • Mae Rhan 1 o Ddeddf 2026 yn nodi’r amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol penodol. Mae’n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhai awdurdodau cyhoeddus eraill i gymhwyso’r egwyddorion ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd. Bwriedir i’r dyletswyddau hyn fod y sylfaen sy’n rhoi lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd wrth wraidd gwaith llunio polisi, ac asesu amgylcheddol strategol, yng Nghymru.
  • Mae Rhan 2 yn sefydlu corff statudol, “Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan gyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
  • Mae Rhan 3 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i sefydlu fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth sydd wedi ei anelu at gyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fydd ar gael.
 

Dod i rym
 

Mae adran 46 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2026 i rym.

Daeth Rhan 4, ar wahân i adran 45, i rym ar 28 Ebrill 2026.

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, sef ar 27 Mehefin 2026–  

  • Yn Rhan 1: adrannau 1, 2, 6, 7 (ac eithrio adran 7(1)(c))
  • Yn Rhan 2: adrannau 8, 10 ac Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 10 ac 21 o’r Atodlen honno); adran 30 ac Atodlen 3; adrannau 31 i 34;
  • Rhan 3 i gyd;
  • Paragraffau 1 i 4 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).

Daw adrannau 3 i 5 i rym ar 31 Mawrth 2027.

Daw holl ddarpariaethau eraill Deddf 2026 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig; ac eithrio, os nad yw’r darpariaethau a restrir isod wedi dod i rym erbyn diwedd y cyfnod o 24 o fisoedd sy’n dechrau â 27 Ebrill 2026, maent yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Y darpariaethau yw: 

  • adran 7(1)(c);
  • paragraffau 10 ac 21 o Atodlen 1;
  • adrannau 11 i 29 ac Atodlen 2; 
  • paragraff 5 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraff hwnnw).

Caiff rheoliadau roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod o 24 o fisoedd, na chaiff fod yn hwy na 48 o fisoedd ar ôl 27 Ebrill 2026.
 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
 

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
 

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 2 Mehefin 2025 gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 24 Chwefror 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026. 
 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
 

Egwyddorion amgylcheddol, trefniadau llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth: Papur Gwyn | LLYW.CYMRU

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mai 2026