Skip to main content

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (y Ddeddf) yn dwyn ynghyd y brif ddeddfwriaeth ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod un Ddeddf bellach yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth ar gyfer diogelu a rheoli henebion ac adeiladau hanesyddol, ardaloedd cadwraeth ac elfennau eraill o amgylchedd hanesyddol Cymru. Gelwir dod â deddfwriaeth fel hyn ynghyd yn "cydgrynhoi".

Mae Rhan 2 yn cynnwys y gyfraith sy’n ymwneud â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a all amrywio o safleoedd archaeolegol i adfeilion sefydlog cestyll, abatai neu safleoedd diwydiannol diweddarach. Ymhlith pethau eraill, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal y gofrestr o henebion y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol (mae dros 4,200 ohonynt ar hyn o bryd) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi a rheolaethu gwaith i henebion cofrestredig gan Weinidogion Cymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a’u gwarchod gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol, sy’n darparu’r sail ar gyfer rheolaeth a chadwraeth llawer o’r henebion sydd yng ngofal Gweinidogion Cymru (yn ymarferol, Cadw, sy’n gweithredu ar eu rhan).

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn ymwneud â’r dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol i gyfnodau mwy diweddar. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru restru adeiladau sydd, yn eu barn hwy, o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi a rheolaethu gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig. Awdurdodau cynllunio sy’n bennaf gyfrifol am weinyddu’r system cydsyniad adeilad rhestredig. Mae Rhan 3 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru neu awdurdodau cynllunio i gaffael adeilad. Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd ymgymryd â gwaith brys i ddiogelu adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Mae Rhan 4 yn ymdrin ag ardaloedd cadwraeth ac yn darparu ar gyfer eu dynodi’n ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig gan awdurdodau cynllunio a’u hadolygu o bryd i’w gilydd. Ar hyn o bryd, mae dros 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru. Mae’r Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheolaethu gwaith dymchwel ac ar gyfer cyflawni gwaith brys mewn ardaloedd cadwraeth ac ar gyfer grantiau sy’n ymwneud â diogelu neu wella ardaloedd cadwraeth.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau atodol sy’n ymwneud ag adeiladau o ddiddordeb arbennig ac ardaloedd cadwraeth. Maent yn ymdrin â materion megis arfer swyddogaethau gan awdurdodau cynllunio, achosion gerbron Gweinidogion Cymru a dilysrwydd penderfyniadau a chywiro penderfyniadau.

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi’r gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru (sy’n cynnwys bron i 400 o safleoedd ar hyn o bryd) a’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, sydd â bron i 700,000 o gofnodion. Mae Rhan 6 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn manylu ar yr hyn y mae rhaid i gofnod amgylchedd hanesyddol ei gynnwys ac yn nodi’r trefniadau y mae rhaid eu gwneud i sicrhau mynediad y cyhoedd i gofnodion.

Mae Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Oherwydd bod y Ddeddf hon yn gydgrynhoad o ddeddfwriaeth gynharach, paratowyd tablau tarddiadau a chyrchfannau. Mae'r Tabl Tarddiadau yn dangos deilliadau darpariaethau'r Ddeddf. Mae'r Tabl Cyrchfannau yn dangos sut yr ymdrinnir â'r deddfiadau a ddisodlir gan y Ddeddf. Mae Nodiadau'r Drafftwyr sy'n cyd-fynd yn esbonio penderfyniadau a wnaed wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth.

Mae'r Ddeddf yn rhan o God y gyfraith sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru – gallwch ddarllen mwy am bwrpas Codau cyfraith Cymru a rhaglen ehangach y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn rhaglen Dyfodol cyfraith Cymru (sydd ar gael ar y wefan hon).

Dod i rym:

Daeth Rhan 1 ac adrannau 209, 210, 211 (3) a (4), 212 a 213 o'r Ddeddf i rym ar 15 Mehefin 2023, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 212(1). Daw'r darpariaethau sy'n weddill i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 212(2).

Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar weithrediad y Ddeddf, tanysgrifiwch i Ddiweddariad ar yr Amgylchedd Hanesyddol Cadw

Is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf:

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o dan y Ddeddf hon hyd yn hyn. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ac offerynnau perthnasol eraill.

Ystyried y ddeddfwriaeth gan y Senedd:

Cyflwynwyd y Bil gan Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ar 4 Gorffennaf 2022 a'i basio gan Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2023. Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy'r Senedd. Mae'r Memorandwm Esboniadol, a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (ac a adolygwyd yn dilyn cam Ystyriaeth Fanel y Pwyllgor o ystyriaeth y Senedd) hefyd ar gael.

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 2023.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
25 Hydref 2023