Chwaraeon a hamdden - trosolwg
Sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru) drwy Siarter Brenhinol ym 1972, gyda Siarter ddiwygiedig yn cael ei rhoi ym 1997. Amcanion Chwaraeon Cymru yw cefnogi, annog a meithrin datblygiad chwaraeon a hamdden corfforol, a chyrraedd rhagoriaeth yn y meysydd hynny ymysg y cyhoedd yng Nghymru. Mae Chwaraeon Cymru yn elusen gofrestredig ac mae’n cael ei hariannu drwy grant gan Weinidogion Cymru.
Yn ogystal â’r cyllid a ddaw gan Lywodraeth Cymru, mae cyllid yn cael ei roi hefyd drwy’r Ddeddf y Loteri Genedlaethol ac ati 1993. Yn gyffredinol nid yw'r Loteri wedi ei ddatganoli. Ond mae gan Weinidogion Cymru rywfaint o bwerau dros wariant sydd wedi ei ddatganoli.
O dan y Ddeddf, mae canran benodol o’r arian sydd wedi ei ddyrannu i’w wario ar chwaraeon i gael ei ddosbarthu gan Chwaraeon Cymru. Gall Gweinidogion Cymru ofyn i Chwaraeon Cymru baratoi ac adolygu cynllun strategol ar gyfer dosbarthu’r arian. Gallant hefyd roi cyfarwyddiadau iddyn nhw am y materion i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â dosbarthu arian.