Skip to main content

Diwylliant - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â;

  • chelf a chrefft;
  • amgueddfeydd ac orielau;
  • llyfrgelloedd;
  • archifau a chofnodion hanesyddol;
  • a gweithgareddau a phrosiectau diwylliannol.

Fodd bynnag, mae rhai materion mewn perthynas â diwylliant wedi'u cadw yn ôl ac nid ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Y rhain yw:

  • darlledu a chyfryngau eraill;
  • y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig;
  • hawliau benthyca cyhoeddus;
  • indemniadau’r llywodraeth ar gyfer gwrthrychau ar fenthyg a thaliadau i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi mewn perthynas ag eiddo a dderbyniwyd i fodloni treth a gwaredu eiddo o'r fath.

Mae cyfreithiau cyfredol y DU sy'n rheoli gwrthrychau a sefydliadau diwylliannol wedi ei gwasgaru ar draws nifer o feysydd cyfreithiol gan gynnwys cyfraith droseddol, cyfraith elusennau, cyfraith eiddo, cyfraith ryngwladol, cyfraith celf, cyfraith eiddo deallusol a chyfraith y cyfryngau. Nid yw pob agwedd ar y meysydd cyfreithiol hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Nid oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol, er enghraifft, i basio deddfau ar eiddo deallusol neu ar reoleiddio elusennau (mae'r rhain yn gymalau cadw yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). I ryw raddau mae hyn yn effeithio ar y graddau y gall Senedd Cymru ddeddfu i newid y ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar ddiwylliant.

Mae craidd y gyfraith yn y maes hwn i’w ganfod mewn deddfwriaeth sylfaenol (neu ‘statudau’) a wneir naill ai gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.

Mae yna lawer iawn o is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Deddfau hynny (megis gorchmynion, rheoliadau a chynlluniau).” Cyn datganoli grym i Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, roedd is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud naill ai ar gyfer Cymru a Lloegr neu ar wahân ar gyfer Cymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae nifer o'r offerynnau hyn a wnaed cyn datganoli yn parhau mewn grym. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999 ac roedd hyn yn cynnwys nifer o swyddogaethau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y statudau hynny a restrir o dan 'deddfwriaeth allweddol' a oedd yn bodoli bryd hynny. O hynny ymlaen, fe wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) arfer y pwerau a drosglwyddwyd iddo i wneud is-ddeddfwriaeth i Gymru tan 2007 pan drosglwyddwyd y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru wrth i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym.

Yn ogystal â deddfwriaeth ddomestig mae nifer o offerynnau rhyngwladol a Rheoliadau, Cyfarwyddebau a Chonfensiynau'r UE mae angen eu hystyried.

Pwerau statudol

Dyma’r prif Ddeddfau sy'n ymwneud â chelfyddyd a diwylliant sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru:

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan Ddeddf Llywodreath Cymru 2006 i wneud unrhyw beth yr ystyriant yn briodol i gefnogi rhai agweddau ar ddiwylliant.

Deddfwriaeth diwylliant allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022