Skip to main content

Sefydliadau diwylliannol

Yng Nghymru ceir nifer o sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol a sefydlwyd gan Warant neu Siarter Brenhinol. Mae'r rhain yn cynnwys:

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Rhoddwyd Siarteri Atodol, yn diwygio'r cyfansoddiad, i'r Llyfrgell ym 1911 a 1978. Ar 19 Gorffennaf 2006, rhoddwyd Siarter atodol newydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Roedd Siarter atodol 2006 yn diddymu Siarter atodol 1978 a newidiodd cyfansoddiad a llywodraethiant y Llyfrgell yn sylweddol. Yn flaenorol roedd gan y Llyfrgell Lys y Llywodraethwyr i lywyddu drosti, ond erbyn hyn mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n gorff corfforedig ac yn elusen gofrestredig. Mae'r Llyfrgell yn derbyn cymorth grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru.

Amgueddfa Cymru

Sefydlwyd Amgueddfa Cymru gan Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Rhoddwyd Siarter atodol i'r Amgueddfa ym 1990, a oedd yn diwygio cyfansoddiad a llywodraethiant yr Amgueddfa. Yn 2006 rhoddwyd Siarter atodol newydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a oedd yn diddymu Siarter atodol 1990 ac yn newid cyfansoddiad a llywodraethiant yr Amgueddfa yn sylweddol. Yn flaenorol roedd gan yr Amgueddfa Lys y Llywodraethwyr a Chyngor i lywyddu drosti, ond erbyn hyn mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae Amgueddfa Cymru’n gorff corfforedig ac yn elusen gofrestredig. Mae'r Amgueddfa’n derbyn ei harian craidd drwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru gan Siarter Frenhinol ar 8 Chwefror 1994 (fel y'i diwygiwyd gan y Cyfrin Gyngor ar 24 Tachwedd 1999). Mae'r Cyngor yn elusen gofrestredig hefyd a’i hamcanion yw

  • datblygu a gwella gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer yn y celfyddydau a
  • gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Mae'r Cyngor yn derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.  

Cyngor Llyfrau Cymru

Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru ym 1961. Amcanion y Cyngor yw hyrwyddo buddiannau llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, hyrwyddo'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, a chynorthwyo a chefnogi awduron trwy gynnig nifer o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Mae'n cynnig gwasanaethau dylunio a golygyddol i gyhoeddwyr, yn dosbarthu grantiau i awduron a chyhoeddwyr, ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer llyfrgelloedd.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru ym 1908 gan Warant Frenhinol. Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi'i leoli yn Aberystwyth ac wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddo rôl mewn datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru, fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr o wybodaeth awdurdodol ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau unigol, corfforaethol a llywodraethol, ymchwilwyr, a'r cyhoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022