Skip to main content

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gan ddarparu y dylai cyrff cyhoeddus penodol, cyn belled ag y mae'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, weithredu'r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn hyrwyddo hynny, mae Deddf 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sydd yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ac sydd wedi derbyn hysbysiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg baratoi cynllun iaith Gymraeg sy’n nodi’r camau y byddant yn eu cymryd o ran defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny. Gallai Bwrdd yr Iaith Gymraeg gymeradwyo’r cynlluniau, rhoi arweiniad ar y cynlluniau a monitro cydymffurfiaeth â nhw.

Dim ond ar gyrff a ddiffinnir fel cyrff cyhoeddus yn y Ddeddf 1993 neu a nodir felly mewn gorchymyn ar wahân o dan y Ddeddf honno y ceir rhoi hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt baratoi cynlluniau. Mae Deddf 1993 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi enw Cymraeg ar unrhyw gorff, swydd neu le y mae deddfwriaeth yn rhoi enw iddo. Yn ogystal, lle bo Deddf yn rhoi pŵer i bennu ffurf dogfen neu ffurf geiriau, mae'r Ddeddf 1993 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu fersiynau Cymraeg o’r dogfennau neu’r ffurfiau hynny. Mae cryn dipyn o Ddeddf 1993 yn parhau mewn grym, gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn cyflawni rôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi'i ddiddymu, mewn perthynas â'r cynlluniau.

Mae Rhan II o'r Ddeddf 1993 yn parhau i fod mewn grym ac yn ymwneud, ymhlith pethau eraill, â defnyddio’r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mehefin 2021