Skip to main content

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn moderneiddio’r fframwaith cyfreithiol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth am statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg, sy’n disodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac, ymysg pethau eraill, rhaid iddo ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Mae panel cynghori yn cefnogi’r Comisiynydd.

Mae’r Mesur yn darparu ar gyfer datblygu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg i ddisodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a ddaeth i fodolaeth yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (‘Deddf 1993’). Dim ond ar y cyrff a enwir neu sydd wedi eu cynnwys o fewn categori a restrir yn y Mesur y gellir gosod gofyniad i gydymffurfio â safonau. Mae Gweinidogion Cymru yn nodi amrediad y safonau y gallai corff gydymffurfio â nhw o fewn rheoliadau.  Caiff y safonau y mae’n rhaid i gorff gydymffurfio â nhw eu nodi o fewn hysbysiad cydymffurfio corff unigol, a gyhoeddir gan y Comisiynydd. Mae’r hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff gydymffurfio.

Lle y mae gan gorff Gynllun Iaith Gymraeg ar waith o dan Ddeddf 1993, rhaid iddo barhau i gydymffurfio â'r cynllun hwnnw tan y dyddiad a bennir yn hysbysiad cydymffurfio'r Comisiynydd ar gyfer y safonau.

Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i achosion o dorri safonau a chyflwyno mesurau gorfodi. Mae gan unrhyw gorff sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, neu unrhyw unigolyn sydd wedi ei effeithio gan fethiant i gydymffurfio â’r safonau, yr hawl i apelio yn erbyn rhai o benderfyniadau’r Comisiynydd. Mae gan y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau yr hawl hefyd i herio gorfodaeth y dyletswyddau hynny. Gellir herio penderfyniadau’r Comisiynydd yn y pen draw yn Nhribiwnlys y Gymraeg a grëwyd dan y Mesur.

Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn rhoi cyngor a sylwadau i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u strategaeth iaith Gymraeg.

Gwnaed y Mesur o dan Ran 3 o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006). Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â’r materion penodol (ac na all ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r eithriadau) a nodir yn Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Senedd Cymru bellach yn creu Deddfau o dan Ran 4 o GoWA 2006, a’r cyfyngiadau ar gymhwysedd Senedd Cymru erbyn hyn yw’r rheiny a nodir yn Atodlen 7A a 7B. Fodd bynnag, mae’r Mesur ac unrhyw orchmynion neu reoliadau (gan gynnwys rheoliadau sy’n dynodi’r safonau) a wneir o dan y Mesur yn gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn Atodlen 5, gan fod y Mesur wedi ei wneud o dan Ran 3 o GoWA 2006.

Dod i rym

Daeth Rhan 1 ac adran 156 o’r Mesur i rym ar 9 Chwefror 2011, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol. 

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Mae'r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 20232023 Rhif 1041 (Cy. 175)    22 Medi 2023  31 Hydref 2023Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 20222022 Rhif 796 (Cy. 174)    13 Gorffennaf 2022        31 Hydref 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 20212021 Rhif 341 (Cy. 95) 17 Mawrth 2021    1 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 20182018 Rhif 441 (Cy. 77)   27 Mawrth 201829 Mehefin 2018    Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 20172017 Rhif 90 (Cy. 33)        1 Chwefror 20177 Chwefror 2017Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 20162016 Rhif 409 (Cy. 127)  15 Mawrth 2016     31 Mawrth 2016    Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 20162016 No. 406 (W. 126)        15 Mawrth 201622 Mawrth 2016 Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 20162016 Rhif 405 (Cy. 125)    15 Mawrth 2016    22 Mawrth 2016    Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016
           
2016 Rhif 397 (Cy. 124)  15 Mawrth 201621 Mawrth 2016Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
 
2016 Rhif 183 (Cy. 77)    9 Chwefror 2016      15 Chwefror 2016   Memorandwm Esboniadol 
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 20162016 Rhif 182 (Cy. 76)       9 Chwefror 201616 Chwefror 2016Memorandwm Esboniadol
Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 20152015 Rhif 1028 (Cy. 76)   8 Ebrill 2015 30 Ebrill 2015    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 20152015 Rhif 996 (Cy. 68)     24 Mawrth 2015 31 Mawrth 2015    Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 20132013 Rhif 3139 (Cy. 312)    10 Rhagfyr 2013        7 Ionawr 2014Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 20122012 Rhif 990 (Cy. 130)  29 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 20122012 Rhif 752 (Cy.102)   7 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig, nid yw'r ddolen Cymraeg yn gweithio)
Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 20122012 Rhif 753 (Cy. 103)7 Mawrth 20121 Ebrill 2012Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 20122012 Rhif 59 (Cy. 13)  11 Ionawr 2012  6 Chwefror 2012    Memorandwm Esboniadol 
Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 20112011 Rhif 1593 (Cy.184)    28 Mehefin 2011    29 Mehefin 2011    Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 4 Mawrth 2010 gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 7 Rhagfyr 2010.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy'r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodion Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Chwefror 2011.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Mesur y Gymraeg (wefan Comisiynydd y Gymraeg)

Cynlluniau a strategaeth y Gymraeg | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
15 Mai 2024