Skip to main content

Safonau'r iaith Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu 5 math o safonau yn y rheoliadau:

  • cyflenwi gwasanaethau
  • llunio polisi
  • gweithredu
  • hybu
  • cadw cofnodion.

Er mai Gweinidogion Cymru sy’n pennu’r safonau, mater i’r Comisiynydd yw penderfynu pa safonau y mae’n rhaid i gorff gydymffurfio â hwy trwy gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i’r corff hwnnw. Gall hysbysiad cydymffurfio ei gwneud hi’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu ragor o safonau, neu gydymffurfio â safonau mewn rhai amgylchiadau neu mewn ardaloedd gwahanol (cyhyd ag y bo hynny’n rhesymol a chymesur). Nid oes rhaid i’r Comisiynydd fynnu bod pob corff yn cydymffurfio â phob safon. Rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hefyd nodi’r diwrnod (neu’r diwrnodau) erbyn pryd y mae’n ofynnol i gorff gydymffurfio â safon.

Mae'r safonau a wnaed hyd yma i'w gweld yn:

Ceir mwy o wybodaeth am system y Safonau ac ar hysbysiadau cydymffurfio a roddir i sefydliadau sy'n ddarostyngedig i'r safonau ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021