Skip to main content

Dyfodol cyfraith Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei rhaglen gyntaf i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’r rhaglen yn ymrwymo’r Llywodraeth i gyflwyno Biliau cydgrynhoi a chymryd nifer o gamau technegol eraill i’w gwneud yn haws i ddinasyddion ddod o hyd i’r gyfraith a’i deall. 

Mae'r rhaglen hefyd ar gael ar LLYW.CYMRU ar ffurf HTML.

Cydgrynhoi nifer o wahanol Ddeddfau presennol (neu ddod â nhw at ei gilydd) i greu un Ddeddf ddwyieithog wedi'i drafftio'n dda yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer sefydlu Codau Cyfraith Cymru.

Pasiwyd y Ddeddf gydgrynhoi gyntaf, Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, gan y Senedd ym mis Mawrth 2023. Mae'r Ddeddf hon yn rhan o God o gyfraith sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae codau cyfraith Cymru yn gwella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru ac mae'n ddull a fydd yn cael ei fabwysiadu mewn Deddfau cydgrynhoi yn y dyfodol ac mewn unrhyw Ddeddfau diwygio sy'n cynnwys datganiad cynhwysfawr o'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar bwnc penodol.  Bwriad codau cyfraith yw helpu personau sydd â diddordeb yn y gyfraith ar bwnc penodol — yr amgylchedd hanesyddol yn y lle cyntaf hwn — i ddod o hyd iddi a'i dosbarthu'n haws. Mae’r cyfeiriad at statws y Ddeddf wedi ei gynnwys gyda’r nod y bydd is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf yn gwneud darpariaeth sy’n union yr un fath. 

Mae dosbarthu Deddfau yn y ffordd hon yn gyson ag argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Rhif 366, 2016). Roedd yr adroddiad hwnnw yn cydnabod pwysigrwydd cynnal uniondeb y gyfraith er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch. Bwriad rhoi statws cod i Ddeddf yw annog symud oddi wrth sefyllfa pan fo’r gyfraith ar bwnc penodol wedi ei gwasgaru dros nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol ar wahân. Yn hytrach, y bwriad yw y bydd Deddfau’r Senedd yn y dyfodol  yn cael eu deddfu a’u cynnal mewn ffordd sy’n caniatáu i’r sawl sy’n defnyddio’r ddeddfwriaeth ddod o hyd i gymaint â phosibl o’r gyfraith sy’n effeithio ar bwnc penodol drwy ddarllen un Ddeddf gan y Senedd neu is-ddeddfwriaeth a wneir odani.

Adroddiadau blynyddol

O dan adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, rhaid gosod adroddiad sy'n nodi'r cynnydd a wnaed o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru gerbron y Senedd bob blwyddyn.

Mae’r adroddiadau blynyddol wedi eu cyhoeddi ar wefan LLYW.CYMRU
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
07 Tachwedd 2023