Dyletswyddau cyffredinol a strategol
Mae Deddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn gosod nifer o ddyletswyddau cyffredinol a strategol ar awdurdodau lleol yng Nghymru.
Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector
Mae adran 16 o Ddeddf 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo:
- datblygiad mentrau cymdeithasol a sefydliadau cydweithredol, neu drefniadau, yn eu hardaloedd i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
- hyrwyddo cyfraniad personau y darperir gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol ar eu cyfer at gynllunio a chyflwyno’r ddarpariaeth honno; ac
- i hyrwyddo yn eu hardaloedd, argaeledd o ofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan sefydliadau trydydd sector (p’un ai a ydynt yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol).
Gwasanaethau ataliol
Mae adran 15 o Ddeddf 2014 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau (cyfeirir atynt fel “gwasanaethau ataliol” yn gyffredinol). Mae’r dibenion sydd i’w cyflawni drwy ddarparu gwasanaethau ataliol yn cael eu disgrifio yn adran 15(2) ac maent yn cynnwys cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth a lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath. Un o’r dibenion eraill a ddisgrifir yw hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant. Mae’r elfen hon o adran 15 yn disodli darpariaeth a gafodd ei chynnwys yn adran 17 o’r Ddeddf Plant 1989.
Hefyd, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried cyflawni’r dibenion hyn wrth arfer eu swyddogaethau eraill. Mae hyn yn golygu mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol cyfan, nid yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn unig, yw ystyried y mathau o wasanaethau ataliol y gellid eu darparu.
Yn yr un modd, mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried pwysigrwydd cyflawni’r dibenion hyn wrth arfer eu swyddogaethau. Er nad yw hyn yn rhoi unrhyw swyddogaeth newydd i Fyrddau Iechyd Lleol, mae’n golygu bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried a oes pethau y gallant eu darparu neu eu trefnu o dan eu swyddogaethau presennol a fyddai’n cyflawni’r dibenion hyn.
Asesiadau o'r boblogaeth a chynlluniau
Mae adran 14 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gyd-asesu lefel yr anghenion am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth) yn ardal yr awdurdod lleol, ac i ba raddau nad yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu. Cyfeirir at yr asesiadau hyn fel ‘asesiadau o'r boblogaeth’.
Hefyd, fel rhan o'r asesiad o'r boblogaeth, mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth sydd wedi’u nodi, ac ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i atal, oedi neu leihau anghenion am ofal a chymorth ac i gyflawni’r amcanion eraill a nodwyd yn adran 15 (gwasanaethau ataliol). Hefyd, ceir gofyniad i asesu’r camau gweithredu gofynnol i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau cyfunol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mewnosodwyd adran 14A o Ddeddf 2014 gan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi cynlluniau ardal mewn ymateb i’r cyd-asesiad o'r boblogaeth, sy’n ofynnol o dan adran 14 o'r Ddeddf. Mae gan Fyrddau Iechyd Lleol gyfrifoldeb tebyg a gall awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol perthnasol gytuno i baratoi a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd.
Mae adran 37 o Ddeddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus – y mae eu haelodau'n cynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol – gynnal asesiad o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal. Cyfeirir at yr asesiadau hyn fel asesiadau o lesiant lleol.
Wrth baratoi asesiadau o lesiant lleol, mae adran 38 o Ddeddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried yr asesiad diweddaraf o'r boblogaeth a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol.
Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, o dan adran 39 o Ddeddf 2015, baratoi ac yna cyhoeddi cynllun llesiant lleol, y mae'n ofynnol iddo nodi sut mae'r bwrdd yn bwriadu gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal i gyflawni “nodau llesiant” Deddf 2015. Gweler y nodau llesiant o dan adran 4 o Ddeddf 2015.
Mae Rhan 1 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Mesur 2010) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol lunio a chyhoeddi ei strategaeth ar gyfer cyfrannu at yr ymdrechion i ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae Rhan 2 o Fesur 2010 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol (a chyrff eraill) i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r strategaeth gynnwys amcanion a ddewiswyd gan yr awdurdod lleol sy’n ymwneud â’r amcanion cyffredinol sy’n berthnasol i’w swyddogaethau ac y gellir eu dilyn wrth arfer ei swyddogaethau. Hefyd, mae’n rhaid i’r strategaeth gynnwys y camau gweithredu a’r swyddogaethau sydd i’w harfer gan yr awdurdod lleol at ddiben cyflawni ei amcanion.
Fodd bynnag, bydd dyletswydd awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth tlodi plant o dan adran 2 o Fesur 2010 wedi’i chyflawni pan gaiff cynllun ei gyhoeddi o dan adrannau 39 neu 44(5) o Ddeddf 2015 gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn rhan annatod o’r cynllun hwnnw.
Gwybodaeth, cyngor a chymorth
Mae adran 17 o Ddeddf 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y darperir gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Diben y gwasanaeth yw darparu gwybodaeth a chyngor i bobl yn ymwneud â gofal a chymorth, gan gynnwys cymorth i ofalwyr, a darparu cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth. Mae’n rhaid darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy mewn ffordd sy’n hawdd cael gafael arnynt ar gyfer yr unigolyn perthnasol.
Bydd gwybodaeth a chyngor ar gael i bawb waeth a oes ganddynt anghenion am ofal a chymorth ai peidio. Gallai’r cyfryw bersonau gynnwys gofalwyr neu bersonau â buddiant, er enghraifft.
Mae’n rhaid i’r gwasanaeth gynnwys gwybodaeth (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, wybodaeth ariannol) a chyngor ar y system ofal a chymorth y darperir ar ei chyfer o dan y Ddeddf 2014, a sut i fynegi pryderon ynglŷn â phobl y mae’n ymddangos bod ganddynt anghenion am ofal a chymorth, neu am gymorth.
Mae gan BILlau ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ddyletswydd i hwyluso’r gwasanaeth drwy ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol am y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu ganddynt.
Gall dau awdurdod lleol neu fwy sicrhau darpariaeth gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Mae’r gofynion hon yn disodli ac yn ehangu’r dyletswyddau yn adran 1(2) o’r Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf Plant 1989.
Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill
Mae adran 18 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestr o bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol ac sydd â nam ar eu golwg, nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad yn adran 29(4)(g) o’r Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Nid yw’r adran yn diffinio “nam ar y golwg”, “nam difrifol ar y golwg”, “nam ar y clyw” neu “nam difrifol ar y clyw”. Fodd bynnag, mae yna bŵer i wneud rheoliadau i ddisgrifio ystyr y termau hyn at ddibenion rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i lunio a chynnal cofrestr fel bod staff clinigol ac awdurdodau lleol yn deall y derminoleg.
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestr o blant yn eu hardal sy’n anabl neu sydd ag anhwylder corfforol neu anhwylder meddwl a all arwain at anghenion am wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’r rhwymedigaeth hon yn disodli’r gofyniad ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf Plant 1989.
Hefyd, mae gan awdurdodau lleol y pŵer i lunio a chynnal cofrestrau o oedolion sy’n anabl ac oedolion nad ydynt yn anabl ond sydd ag anhwylder corfforol neu anhwylder meddwl, neu sydd ag anghenion a all arwain, ym marn yr awdurdod lleol, at ofyniad am ofal a chymorth yn y dyfodol.
At ddibenion adran 18, mae person yn “anabl” os oes gan y person anabledd at ddibenion yr Deddf Cydraddoldeb 2010. Caiff rheoliadau o dan adran 3(6) o'r Ddeddf 2014 ddarparu bod person sy’n dod o fewn categori penodedig i’w drin neu i beidio â chael ei drin fel un sy’n anabl at ddibenion Deddf 2014.
Bydd y cyfryw gofrestrau yn gymorth i awdurdod lleol asesu anghenion am ofal a chymorth yn y dyfodol yn ei ardal drwy adnabod personau sydd â chyflwr dirywiol o bosibl, ac a fydd angen cymorth yr awdurdod lleol o bosibl yn y dyfodol wrth i’w cyflwr waethygu, hyd yn oed os nad oes angen y cyfryw gymorth arnynt ar hyn o bryd.
Nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr oni bai bod y person hwnnw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ynddi neu fod cais i gael ei gynnwys wedi’i wneud ar ei ran. Mae’n rhaid i awdurdod lleol hysbysu person ei fod wedi’i gynnwys mewn cofrestr ac, yn dilyn cais gan y person neu gan rywun arall sy’n gweithredu ar ei ran, mae’n rhaid i’r awdurdod ddileu unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r person (er ei fod yn gallu cadw’r data dienw).
Cydweithredu
Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad; oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr
Mae adran 162 o Ddeddf 2014 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr awdurdod lleol, pob un o blith 'partneriaid perthnasol' yr awdurdod a chyrff eraill sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n berthnasol i oedolion sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng swyddogion yr awdurdod. Mae'r trefniadau i’w gwneud gyda'r bwriad o wella llesiant oedolion gydag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr. Mae angen i’r trefniadau hefyd ganolbwyntio ar wella ansawdd y gofal a'r a chymorth a'u gofalwyr priodol. Mae angen i’r trefniadau hefyd ganolbwyntio ar wella ansawdd y gofal a'r cymorth a diogelu oedolion sy'n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Nodir yr asiantaethau sy'n “bartneriaid perthnasol” o awdurdod lleol yn adran 162(4) ac maent yn cynnwys:
- y corff plismona lleol,
- unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r awdurdod yn cytuno ag ef y byddai'n briodol cydweithredu o dan yr adran hon,
- timau troseddwyr ifanc,
- gwasanaethau prawf,
- Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod,
- Ymddiriedolaeth y GIG sy'n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod,
- Gweinidogion Cymru i'r graddau eu bod yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, ac
- unrhyw berson o'r fath, neu berson o'r fath ddisgrifiad, fel y caiff rheoliadau eu pennu.
Gall yr holl bartneriaid perthnasol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety, sefydlu a chynnal cronfa gyfun a rhannu gwybodaeth â'i gilydd. Mae 'cronfa gyfun' yn cynnwys cyfraniadau gan yr awdurdod a'r partneriaid perthnasol y gellir gwneud taliadau ohoni wrth gyflawni swyddogaethau. Rhaid i'r awdurdod lleol a'i bartneriaid perthnasol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r ddarpariaeth hon ar gyfer oedolion a gofalwyr yn adlewyrchu darpariaethau presennol y Ddeddf Plant 2004 mewn perthynas â phlant. Mae Adran 25 Deddf 2004 yn galluogi partneriaid perthnasol fel y'u diffinnir yn y Ddeddf honno i sefydlu a chynnal cronfa gyfun neu ddarparu staff, nwyddau a chymorth i bartner arall at ddibenion y trefniadau cydweithredu o dan yr adran honno.
Gallai enghraifft o ddefnydd posibl i gronfa gyfun er budd oedolion gynnwys ariannu gweithwyr cymorth iechyd ychwanegol i gynorthwyo pobl sy'n gwella ar ôl bod yn camddefnyddio sylweddau neu ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth i ofalwyr.
Trefniadau i hyrwyddo cydweithredu: plant
Yn 2004, o’i gwirfodd, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel sail i'w holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roedd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ar ôl hynny yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i'r Confensiwn wrth gyflawni unrhyw rai o'i swyddogaethau).
Mae hawliau'r Confensiwn wedi cael eu trosi’n saith Nod Craidd y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio eu gweithredu er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc:
- yn cael dechrau teg mewn bywyd;
- yn cael amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu;
- yn mwynhau'r iechyd gorau posibl, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth a cham-fanteisio;
- yn cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol;
- yn cael gwrandawiad, eu trin â pharch, a chydnabyddiaeth o’u hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol;
- â chartref diogel a chymuned sy'n cefnogi llesiant corfforol ac emosiynol; a’u bod
- ddim dan anfantais oherwydd tlodi.
Mae'r nodau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn adran 25 y Ddeddf Plant 2004 a chyda’i gilydd yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer amddiffyn a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc. Am y tro cyntaf, mae'n rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel awdurdodau gwasanaethau plant) i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad gyda'r bwriad o wella llesiant plant yn eu hardal, o ran:
- iechyd a llesiant emosiynol corfforol a meddyliol;
- eu hamddiffyn rhag niwed ac esgeulustod;
- addysg, hyfforddiant a hamdden;
- y cyfraniad a wneir ganddynt i gymdeithas; a
- llesiant cymdeithasol ac economaidd.
Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon mae'n ofynnol i awdurdod lleol hyrwyddo cydweithrediad rhyngddo ef ei hun a'i “bartneriaid perthnasol”. Pennir yr asiantaethau sy'n "bartneriaid perthnasol" i’r awdurdod lleol yn adran 25(4) o Ddeddf 2004 ac maent yn cynnwys y BILl ar gyfer yr ardal ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (os yw'n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod), yr awdurdod heddlu lleol, y gwasanaethau prawf a thimau troseddwyr ifanc.
Mae adran 163 Deddf 2014 yn diwigio adran 25 Deddf 2004 er mwyn sicrhau bod y ddyletswydd sydd yn Neddf 2004 i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad er mwyn gwella llesiant plant yn cyd-fynd â'r ddyletswydd newydd yn adran 162 Deddf 2014. Yn benodol, mae'r diffiniad o “lesiant” yn adran 2 Deddf 2014 yn cael ei fewnforio i adran 25 Deddf 2004 yn lle'r diffiniad presennol, ynghyd â diffiniad newydd o “gofal a chymorth”.
Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
Ceir darpariaeth yn adran 164 Deddf 2014 os yw'r awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad partner perthnasol, neu am wybodaeth ganddo, wrth arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhaid i'r partner perthnasol wneud hynny oni fyddai hynny’n anghydnaws â'i ddyletswyddau ei hun neu fel arall yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau ei hun. Pe digwydd i’r partner perthnasol wrthod cydweithredu neu ddarparu gwybodaeth rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig i'r awdurdod lleol yn egluro ei benderfyniad i wrthod.
Mae adran 27 o Ddeddf Plant 1989 yn gosod dyletswyddau penodol ar asiantaethau i gydweithredu er lles plant agored i niwed. Os yw'n ymddangos i awdurdod lleol y gallai corff cyhoeddus arall, drwy gymryd unrhyw gam penodol, gynorthwyo wrth arfer unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 3 Deddf 1989, gallant ofyn am gymorth yr awdurdod arall hwnnw, gan nodi'r cam dan sylw. Mae gan gorff cyhoeddus y gofynnir am ei help dan yr adran hon ddyletswydd i gydymffurfio â'r cais os yw'n gydnaws â'i ddyletswyddau a’i ymrwymiadau statudol neu anstatudol ei hun ac nad yw'n rhagfarnu'n ormodol unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau.
Mae adran 27 Deddf 1989 wedi ei diwygio gan y Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016, fel nad yw’n gymwys mwyach i geisiadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ei fod bellach wedi'i gwmpasu gan adran 164 Deddf 2014. Fodd bynnag, bydd adran 27 yn dal yn gymwys i geisiadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr i gyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr.
Mae ceisiadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gyrff cyhoeddus eraill yn Lloegr a fyddai gynt wedi cael eu gwneud o dan adran 27 bellach yn cael eu cwmpasu gan adran 164A Deddf 2014. Mae adran 164A yn adlewyrchu darpariaethau adran 27, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru gydymffurfio â cheisiadau i gydweithredu gan awdurdodau lleol yng Nghymru wrth arfer rhai o'u swyddogaethau mewn perthynas â phlant, sef:
- swyddogaethau'r awdurdod lleol o dan adran 14F y Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig);
- unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn enwedig y rheiny sydd ag anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;
- unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ac sy'n cael eu lletya;
- unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â hawl i gymorth o dan adrannau 105 i 115 Deddf 2014 (pobl sy’n gadael gofal).
Mae adran 47 y Ddeddf Plant 1989 hefyd yn gosod dyletswydd ar:
- unrhyw awdurdod lleol;
- unrhyw awdurdod addysg lleol;
- unrhyw awdurdod tai;
- unrhyw fwrdd iechyd lleol, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (neu gyrff cyfatebol y GIG yn Lloegr); ac
- unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru,
i helpu'r awdurdod lleol gyda'i ymholiadau mewn achosion lle mae achos rhesymol i amau bod plentyn yn dioddef, neu'n debygol o ddioddef, niwed sylweddol.
Methiant darparwr
Mae adran 189 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdod lleol yng Nghymru i weithredu pe bai “darparwr gwasanaeth” a gofrestrwyd i ddarparu gwasanaeth rheoledig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn methu â darparu gwasanaeth yn sgil methiant busnes.
Dan amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol, cyhyd â'i fod yn ei ystyried yn angenrheidiol, ddiwallu anghenion yr oedolion yr oedd y person cofrestredig yn darparu llety neu wasanaethau ar eu cyfer.
Mae Rhan 1 y Ddeddf Gofal 2014 hefyd yn gosod dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd camau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth (neu gymorth) oedolion os digwydd bod person cofrestredig yn methu â darparu llety neu wasanaethau eraill o ganlyniad i fethiant busnes, lle mae’r oedolion hynny wedi cael eu gosod yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru gan:
- awdurdod lleol yn Lloegr;
- awdurdod lleol yn yr Alban;
- Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
Yn unol â hynny, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu gosod o dan yr un ddyletswydd dros dro mewn perthynas â phersonau yn eu hardal sydd mewn llety neu'n derbyn gwasanaethau a drefnir gan (neu o ganlyniad i daliad uniongyrchol a ddarperir gan) yr awdurdodau lleol yn Lloegr neu'r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r dyletswyddau dros dro a osodir mewn achos o fethiant busnes gan y Ddeddf hon (a gan y Ddeddf Gofal 2014) ond yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau neu lety a ddarperir ar gyfer oedolion. Mae nifer o fesurau diogelwch statudol eisoes yn bodoli mewn achos o fethiant darparwr sy'n diwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth (neu gymorth) drwy ddarparu gwasanaethau neu lety. Er enghraifft, gwneir darpariaeth o dan y Ddeddf Plant 1989 ac mewn is-ddeddfwriaeth sy'n nodi'r gofynion ar gyfer parhad darpariaeth gofal a lleoliadau gofal).
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu beth a olygir gan “fethiant busnes” a “methu â gwneud rhywbeth oherwydd methiant busnes”.
gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015.