Economi a datblygu - beth sydd wedi ei ddatganoli?
Cymhwysedd deddfwriaethol
Ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym, mae Cymru bellach wedi symud i fodel datganoli sy'n cadw pwerau, sy'n golygu bod Senedd Cymru yn gallu pasio cyfreithiau ar unrhyw bwnc, oni bai y nodwyd bod y pwnc hwnnw wedi'i gadw yn ôl yn benodol ar gyfer Senedd y DU.
Mae gan Senedd Cymru lefel uchel o gymhwysedd deddfwriaethol o ran datblygu economaidd. Mae'r cymhwysedd hwn wedi'i ehangu ymhellach gyda chyflwyniad Rhan 4A yn Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006), sy'n caniatáu i Senedd Cymru ddeddfu o ran trethi datganoledig, ac yn darparu ar gyfer creu trethi datganoledig newydd drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, y bydd yn rhaid ei gytuno gan Senedd y DU a Senedd Cymru. Mae Rhan 4A hefyd yn caniatáu i Senedd Cymru osod cyfraddau treth incwm Cymru, y bydd angen i drethdalwyr Cymru eu talu.
Materion a gedwir yn ôl sy'n ymwneud â datblygu economaidd
Er bod Senedd Cymru yn mwynhau cymhwysedd eang dros faes trosfwaol datblygu economaidd, mae rhai meysydd pwnc penodol sydd wedi'u cadw yn ôl ar gyfer Senedd y DU o hyd. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu isod.
Pennawd A – Materion Ariannol ac Economaidd
O dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006, mae'r meysydd pwnc canlynol yn faterion a gedwir yn ôl (h.y. materion nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol drostynt): polisïau cyllidol, economaidd ac ariannol (megis y gyfradd gyfnewid a chyflwyno a dosbarthu arian); yr arian cyfred; gwasanaethau ariannol (megis bancio a chymryd arian); marchnadoedd ariannol; a chyfrifon segur.
Fodd bynnag, mae rhai eithriadau nodedig i'r rhain – er enghraifft, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd i ddeddfu ar faterion sy'n ymwneud â threthi datganoledig a threthi lleol i ariannu gwariant awdurdodau lleol (megis y dreth gyngor).
Pennawd C – Masnach a Diwydiant
Mae'r materion mwyaf nodedig a gedwir yn ôl o ran datblygu economaidd o dan y pennawd hwn yn cynnwys: cystadleuaeth; rheoli mewnforio ac allforio; diogelu defnyddwyr; a datblygiadau diwydiannol. Fodd bynnag, er mwyn nodi a deall cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn llwyr o dan y pennawd hwn, mae'n bwysig ystyried yr eithriadau i'r materion a gedwir yn ôl a restrwyd hefyd.
Er enghraifft, mae 'rheoli mewnforio ac allforio' wedi'i restru fel mater a gedwir yn ôl. Er hynny, nodir yn benodol y gall Senedd Cymru ddeddfu yn y maes hwn o ran y canlynol:
- Gwahardd a rheoli symud bwyd, planhigion, anifeiliaid a phethau perthnasol i mewn ac allan o Gymru at ddibenion diogelu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu'r amgylchedd, neu er mwyn arsylwi ar, neu weithredu, goblygiadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
- Gwahardd a rheoli symud deunydd bwydo anifeiliaid, gwrteithiau neu blaladdwyr (neu bethau a gaiff eu trin yn rhinwedd deddfiad fel plaladdwyr) i mewn ac allan o Gymru at ddibenion diogelu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion neu'r amgylchedd.
Er hynny ni eithrir o’r neilltuad, gwahardd a rheoli at ddibenion gwarchod rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl.
Pennawd H – Cyflogaeth
Yn gyffredinol, nid yw cyflogaeth yn faes y gall Senedd Cymru ddeddfu arno, oherwydd mae materion a gedwir yn ôl wedi'u nodi o dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006. Fodd bynnag, fel y trafodwyd uchod, mae hefyd eithriadau i'r materion a gedwir yn ôl o dan y pennawd hwn a rhaid ystyried y rhain hefyd. Mae'r prif feysydd o fewn y pennawd hwn fel a ganlyn:
- Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol: mae'r maes hwn yn cadw yn ôl yn benodol hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol ar gyfer Senedd y DU. Mae hefyd rhestr o ddeddfwriaethau wedi'u darparu o dan y pennawd hwn y mae eu pynciau wedi'u cadw yn ôl yn benodol. Fodd bynnag, nid yw pwnc Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 wedi'i gynnwys yn y rhestr hon ac mae o fewn cymhwysedd Senedd Cymru yn benodol.
- Byrddau hyfforddi diwydiannol: mae'r pennawd hwn yn cadw yn ôl yn benodol gymhwysedd dros y byrddau hyfforddi canlynol – Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu; Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peirianneg; Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Ffilm yng Nghymru a Lloegr.
- Chwilio am waith a chael cymorth: mae'r pennawd hwn yn nodi nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd i ddeddfu ar drefniadau ar gyfer cynorthwyo unigolion i ddewis, hyfforddi ar gyfer, cael a chadw cyflogaeth, nac i gael cyflogeion priodol. Fodd bynnag, mae'r eithriadau i'r materion hyn a gedwir yn ôl yn golygu y gall Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas ag addysg; hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol a chorfforol; a gwasanaethau gyrfaoedd.
Materion cyffredinol a gedwir yn ôl sy'n effeithio ar ddatblygu economaidd
Mae materion eraill a gedwir yn ôl sy'n benodol i sectorau, sy'n golygu na all Senedd Cymru, mewn rhai amgylchiadau, ddeddfu ar faterion megis telathrebu, gwasanaethau post, trydan, glo, ac olew a nwy. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, mae'n hanfodol fod yr eithriadau i'r materion a gedwir yn ôl yn cael eu hystyried er mwyn cael gwybod a deall yn llwyr pa gymhwysedd deddfwriaethol sydd gan Senedd Cymru mewn maes pwnc penodol.
Cymhwysedd gweithredol
Mae gan Weinidogion Cymru nifer o swyddogaethau gweithredol, sef y pwerau a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru bob dydd i sicrhau bod y wlad yn cael ei rhedeg yn llyfn. Mae'r pwerau hyn yn deillio o wahanol ffynonellau amrywiol. Mae'r prif swyddogaethau gweithredol sy'n ymwneud â datblygu economaidd wedi'u nodi isod.
Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975
Cafodd Awdurdod Datblygu Cymru ei ddiddymu ar 1 Ebrill 2006 a chafodd y pwerau yr oedd ganddo o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (WDAA 1975) eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, sydd â'r gallu i'w rhoi ar waith bellach. WDAA 1975 yw prif sail gyfreithiol Llywodraeth Cymru dros ymyrryd a chynorthwyo mewn perthynas â datblygu economaidd. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud y canlynol:
- hyrwyddo Cymru fel lleoliad i fusnesau;
- rhoi cyllid i unigolion sy'n cynnal neu'n bwriadu cynnal busnes;
- cyflawni ymgymeriadau diwydiannol a sefydlu a chynnal busnesau newydd;
- hyrwyddo neu gynorthwyo fel arall â'r gwaith o sefydlu, tyfu, moderneiddio neu ddatblygu busnes;
- cyflwyno tir i'w ddatblygu;
- darparu safleoedd, adeiladau, gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer busnesau;
- rheoli safleoedd ac adeiladau ar gyfer busnesau;
- ailddefnyddio neu wella ymddangosiad tir diffaith;
- ymgymryd â gwaith i ddatblygu ac ailddatblygu'r amgylchedd; a
- hyrwyddo perchnogaeth breifat buddion mewn busnesau drwy waredu gwarannau ac eiddo arall.
Ar yr amod eu bod at un o'r dibenion canlynol:
- i ehangu datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru neu unrhyw ran o Gymru ac, yn y cyswllt hynny, i ddarparu, cynnal neu ddiogelu cyflogaeth;
- i hyrwyddo effeithlonrwydd mewn busnes a chystadleurwydd rhyngwladol yng Nghymru; ac
- i wella'r amgylchedd ymhellach yng Nghymru (gan ystyried amwynderau sy'n bodoli eisoes).
Yn ogystal â'r swyddogaethau cyffredinol hyn, gall Gweinidogion Cymru gyflawni nifer o swyddogaethau eraill o dan WDAA 1975:
- caffael, cynnal a gwaredu gwarannau;
- ffurfio cyrff corfforaethol;
- ffurfio partneriaethau gydag unigolion eraill;
- cynnig benthyciadau;
- gwarantu rhwymedigaethau (sy'n deillio o fenthyciadau neu fel arall) a osodir gan unigolion eraill;
- cynnig grantiau;
- gweithredu fel asiant ar gyfer unigolion eraill;
- caffael a gwaredu tir, gweithfeydd, peiriannau ac offer, ac eiddo arall;
- rheoli tir, a datblygu tir a chyflawni gwaith ar dir, a chynnal gweithfeydd neu gynorthwyo â'r gwaith o'u cynnal a chadw;
- sicrhau bod tir, gweithfeydd, peiriannau ac offer, ac eiddo arall ar gael i'w defnyddio gan unigolion eraill;
- darparu gwasanaethau cynghori neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill sy'n ymwneud ag unrhyw un o'u dyletswyddau, neu gynorthwyo â'r gwaith o'u darparu; a
- hyrwyddo neu gynorthwyo â'r gwaith cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud ag unrhyw un o'u swyddogaethau o dan WDAA 1975.
eto, ar yr amod ei fod at un o'r dibenion a restrwyd uchod.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
- Mae adran 58A o GoWA 2006 yn gosod swyddogaethau gweinidogaethol gweithredol ar Weinidogion Cymru, y gellir eu cyflawni yn unol â chymhwysedd datganoledig.
- Mae adran 60 o GoWA 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n briodol yn eu tyb nhw i gyflawni'r gwaith o hyrwyddo neu wella llesiant economaidd Cymru.
- Mae adran 70 o GoWA 2006 yn caniatáu i'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol gynnig cymorth ariannol i unigolion sy'n ymwneud â gweithgareddau y mae'r Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y byddant yn eu helpu i gyflawni un o amcanion Llywodraeth Cymru.
- Mae adran 71 o GoWA 2006 yn caniatáu i'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wneud unrhyw beth a fydd yn eu cynorthwyo i gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau eraill. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i gaffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.
Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
- Mae adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol i unrhyw un mewn perthynas â gwario mewn cyswllt â gweithgareddau sy'n cyfrannu at adfywio neu ddatblygu ardal.