Skip to main content

Twristiaeth

Mae twristiaeth wedi'i datganoli yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i annog a chefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy ddarparu arweiniad a chyngor i fusnesau twristiaeth, yn ogystal â chyllid cyfalaf drwy'r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth. Gall Senedd Cymru basio Deddf gan Senedd Cymru sy’n ymwneud â thwristiaeth.

Mae Croeso Cymru / Visit Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru, sydd wedi cymryd drosodd swyddogaethau blaenorol Bwrdd Croeso Cymru. Mae Croeso Cymru yn cefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn ceisio gwella twristiaeth yng Nghymru ac yn darparu’r fframwaith sy’n galluogi busnesau twristiaeth i weithredu.

Dyma’r prif Ddeddfau sy’n llywodraethu twristiaeth:

 

Cafodd yr English Tourist Board ei sefydlu gan y Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969. Yn 2005, cafodd swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler OS 2005/3225) ac yna i Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (para 30 atodlen 11). Maent yn cynnwys y pwerau i:

  • annog pobl i ymweld â Chymru, ac annog pobl sy’n byw yng Nghymru i dreulio eu gwyliau yno,
  • annog bod amwynderau a chyfleusterau i dwristiaid yn cael eu darparu yng Nghymru a’u gwella darparu cymorth ariannol er mwyn cynnal prosiectau sy’n darparu neu’n gwella amwynderau i dwristiaid a chynnal prosiectau o’r fath
  • cynghori unrhyw gorff cyhoeddus ar faterion yn ymwneud â thwristiaeth yng Nghymru.

At ddibenion cyflawni’r pwerau hyn, mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i:

  • hyrwyddo neu gynnal cyhoeddusrwydd,
  • darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth,
  • hyrwyddo a chynnal ymchwil
  • sefydlu pwyllgorau i’w cynghori ar sut i gyflawni eu swyddogaethau
  • cyfrannu at neu ad-dalu costau sy’n codi gan eraill mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddusrwydd, gwybodaeth a chynghori a gwaith ymchwil.

Roedd y Ddeddf Twristiaeth (Hybu Tramor) (Cymru) 1992 yn ategu Deddf 1969 drwy ddarparu bod y pwerau o dan Ddeddf 1969 yn cynnwys y pŵer i gynnal unrhyw weithgareddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig er mwyn annog pobl i ymweld a Chymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
05 Hydref 2021