Galw cais i mewn
'Galw i mewn' yw'r broses lle mae penderfyniadau cynllunio'n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru yn lle'r awdurdod cynllunio lleol (ACLl).
Gwnaed cyfarwyddiadau galw i mewn gan Weinidogion Cymru a:
- gall gael ei roi naill ai i ACLl penodol neu i awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol; ac
- gall ymwneud â chais penodol neu geisiadau mewn dosbarth sydd wedi'i nodi yn y cyfarwyddyd.
Y maen prawf cyffredinol ar gyfer galw i mewn yw bod rhaid i'r cais (neu'r ceisiadau) sy'n cael ei alw i mewn gynnwys materion cynllunio sydd â mwy na phwysigrwydd lleol e.e. gwrthdaro gyda pholisïau cynllunio cenedlaethol; effaith eang y tu hwnt i'r ardal leol; datblygiad sy'n debygol o effeithio ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, cadwraeth natur neu hanesyddol cydnabyddedig neu un sy'n achosi cryn ddadlau y tu hwnt i'r ardal leol.
Mae galw i mewn yn gymharol brin: er enghraifft, er gwaethaf eu harwyddocâd a'u proffil, ni chafodd ceisiadau eu galw i mewn perthynas â'r terfynellau nwy hylifol yn Aberdaugleddau a Phentref Gwyliau Bluestone o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru Gyfarwyddyd Hysbysu yn 2012 a chanllawiau yng Nghylchlythyr 07/12 Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012. Roedd y cylchlythyr a’r cyfarwyddyd newydd hwn yn cyflwyno’r gofynion newydd i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyfeirio ceisiadau cynllunio penodol at Weinidogion Cymru, er mwyn penderfynu ai galw’r cais i mewn ai peidio.
Mae polisi Llywodraeth Cymru ar alw ceisiadau cynllunio i mewn i’w weld ym mharagraff 3.12.1 Planning Policy Wales (PPW) (Rhifyn 10, Rhagfyr 2018).