Skip to main content

Gofal iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant

Gwarcheidiaeth

Mae gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol swyddogaethau amrywiol mewn perthynas â gofal pobl ag anhwylder meddwl sy’n byw yn y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys gweithredu fel gwarcheidwaid neu gymeradwyo a goruchwylio penodiad eraill i weithredu fel gwarcheidwaid pobl ag anhwylder meddwl o dan y Deddf Iechyd Meddwl 1983 (MHA 1983). Diben gwarcheidiaeth yw galluogi cleifion i dderbyn gofal yn y gymuned lle na ellir ei ddarparu heb ddefnyddio pwerau gorfodol. Mae adran 7 o MHA 1983 yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir derbyn claf 16 oed neu hŷn i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol neu berson sy’n dderbyniol i’r awdurdod. Gellir gwneud cais am warcheidiaeth mewn perthynas â chlaf ar y seiliau:

  1. ei fod yn dioddef anhwylder meddwl o natur neu radd sy’n golygu y gellir ei dderbyn i warcheidiaeth dan MHA 1983; a
  2. ei bod yn angenrheidiol er budd lles y claf neu er diogelwch pobl eraill y dylid derbyn y claf.

Pan wneir cais am warcheidiaeth, mae gan yr awdurdod lleol y pŵer o:

  1. ei gwneud yn ofynnol i’r claf breswylio mewn lle a nodir gan yr awdurdod lleol;
  2. ei gwneud yn ofynnol i’r claf fynychu lleoedd ac ar amseroedd a nodir at ddiben triniaeth feddygol, galwedigaeth, addysg neu hyfforddiant;
  3. ei gwneud yn ofynnol i’r claf gael mynediad, ble bynnag y bo’r claf yn preswylio, i unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig, gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol wedi’i gymeradwyo neu berson arall a nodir gan yr awdurdod.

Yn unol â Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008, mae’n rhaid i’r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol â chyfrifoldeb drefnu bod pob claf sy’n cael ei dderbyn i warcheidiaeth yn cael ymweliad ar adegau a bennir gan yr awdurdod, neu o leiaf unwaith bob tri mis, ac mae’n rhaid i glinigydd cymeradwy neu ymarferydd meddygol cymeradwy ymweld â’r claf o leiaf unwaith y flwyddyn.

Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy

Gweithiwr iechyd proffesiynol a gymeradwywyd gan Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol, yn unol ag adran 114 o MHA 1983 a Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008, i gynnal swyddogaethau penodol o dan MHA 1983 yw Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).

Gellir cymeradwyo gweithiwr cymdeithasol, nyrs, seicolegydd a therapydd galwedigaethol fel AMHP. Yn unol â Rheoliad 3(1), gellid cymeradwyo person fel AMHP dim ond os bydd y person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol, yn gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol, ac wedi cwblhau cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol AMHP a gymeradwywyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

O dan adran 114A o MHA 1983, gall Gofal Cymdeithasol Cymru gymeradwyo cyrsiau ar gyfer personau sydd wedi’u cymeradwyo, neu sydd am gael eu cymeradwyo, gan awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol i weithredu fel AMHP. Hefyd, gall Gofal Cymdeithasol Cymru ymchwilio i faterion sy’n berthnasol i hyfforddi AMHPs, neu gynorthwyo personau eraill i wneud gwaith ymchwil o’r fath.

O dan adran 11 o'r MHA 1983, caiff AMHP neu berthynas agosaf y claf wneud cais am asesiad, cais am fynediad i driniaeth a chais am warcheidiaeth. Fodd bynnag, ni ellir gwneud cais o’r fath gan AMHP:

  1. pan fydd y berthynas agosaf wedi hysbysu’r AMHP neu'r Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol ei bod yn gwrthwynebu'r cais
  2. pan na fydd yr AMHP, cyn belled â'i bod yn rhesymol bosibl, wedi ymgynghori â'r person yr ymddengys mai ef yw'r berthynas agosaf
  3. pan na fydd yr AMHP wedi gweld y claf o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n dod i ben ar ddyddiad y cais
  4. pan fydd gwrthdaro buddiannau.

Mae adran 13(1) o MHA 1983 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol i drefnu bod AMHP ar gael i ystyried amgylchiadau claf yn eu hardal os oes rheswm i gredu o bosibl bod angen i’r claf gael ei dderbyn i ysbyty neu i warcheidiaeth. Mae gan AMHP ddyletswydd i wneud cais pan fydd yn fodlon y dylid gwneud y cyfryw gais; a'i fod o'r farn, wrth ystyried unrhyw ddymuniadau a fynegwyd gan berthnasau'r claf neu unrhyw amgylchiadau perthnasol, fod angen ei wneud ganddynt neu fod hynny'n briodol.

Dylai Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol sicrhau bod gwasanaeth AMHP 24 awr ar gael i sicrhau na chaiff perthynas agosaf ei rhoi mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddi wneud cais o dan y Ddeddf gan na all AMHP fynychu ar gyfer asesiad.

Os yw’r claf yn cael ei gadw o dan adran 2 o MHA 1983, mae’r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol a drefnodd i AMHP ystyried achos derbyn y claf yn parhau i fod yn gyfrifol am drefnu i AMHP ystyried achos y claf os oes gan yr awdurdod lleol reswm i gredu bod angen gwneud cais i gadw’r claf yn hirach yn yr ysbyty i gael triniaeth o dan adran 3 o MHA 1983.

Mae Cod Ymarfer Deddf Lechyd Meddwl 1983 i Gymru yn darparu canllawiau mewn perthynas â chynnal swyddogaeth a dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Adroddiadau ac ymweliadau cymdeithasol

Mae gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol swyddogaethau hefyd o dan adran 14 o'r MHA 1983 mewn perthynas ag adroddiadau cymdeithasol cleifion sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty o dan Ran 2 o MHA 1983. Mae gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol ddyletswydd i ddarparu adroddiad ar amgylchiadau cymdeithasol claf ar gyfer rheolwyr ysbytai. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am gysylltiadau teuluol a chymdeithasol y claf, hanes anhwylder meddwl a chyswllt blaenorol â’r awdurdod lleol. Dylid paratoi’r adroddiad ar ôl i AMHP gyfweld â’r claf.

Mae adran 116 o MHA 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol drefnu ymweld â chleifion sydd wedi’u derbyn i ysbyty, ysbytai annibynnol a chartrefi gofal os mai’r awdurdod lleol yw gwarcheidwad y claf neu berthynas agosaf y claf at ddibenion y darpariaethau statudol mewn perthynas â mynediad a derbyniad gorfodol i warcheidiaeth o dan MHA 1983. Os mai plentyn neu berson ifanc yw’r claf a’i fod yng ngofal yr awdurdod lleol oherwydd gorchymyn gofal, bernir mai’r awdurdod hwnnw yw perthynas agosaf y claf. Dan rai amgylchiadau, gall y berthynas agosaf gael ei disodli gan y llys sirol, sy’n gallu gorchymyn bod swyddogaethau’r berthynas agosaf yn cael eu cyflawni gan berson arall neu gan wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

Ôl-ofal

Mae adran 117  o MHA 1983 yn rhoi dyletswydd ar y cyd ar awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol a byrddau iechyd lleol i ddarparu ôl-ofal ar gyfer rhai categorïau o gleifion ag anhwylder meddwl nad ydynt yn cael eu cadw bellach ac sy’n gadael yr ysbyty. Mae adran 117 yn berthnasol i bersonau sy’n:

  • cael eu cadw o dan adran 3,
  • sy’n cael eu derbyn yn unol â gorchymyn ysbyty a wnaed o gan adran 37,
  • a’u trosglwyddo i ysbyty yn unol â gorchymyn ysbyty a wnaed o dan adran 45A neu’n unol â chyfarwyddyd trosglwyddo a wnaed o dan adran 47 neu 48 o'r Ddeddf 1983.

Dylai'r gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol sefydlu polisïau y cytunwyd arnynt ar y cyd ar ddarparu gwasanaethau ôl-ofal. Mae gwasanaethau ôl-ofal yn wasanaethau sydd â'r dibenion o ddiwallu angen wedi'i asesu sy'n deillio o anhwylder meddwl yr unigolyn, neu'n gysylltiedig ag ef. Y gwasanaethau hyn a'u nod yw lleihau'r risg o ddirywiad yng nghyflwr meddwl yr unigolyn ac, yn unol â hynny, lleihau'r risg y bydd y person yn gorfod cael ei dderbyn i ysbyty eto i gael triniaeth am anhwylder meddwl. Fel arfer, felly, bydd gwasanaethau’n cynnwys triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl, cymorth gwaith cymdeithasol i helpu’r claf i oresgyn problemau yn ymwneud â chyflogaeth, llety neu gysylltiadau teuluol, darparu gwasanaethau gofal cartref a defnyddio cyfleusterau canolfannau dydd a phreswyl. Gall gwasanaethau ôl-ofal gynnwys gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â gwasanaethau sy’n cael eu darparu o dan drefniadau gyda darparwyr gwasanaethau preifat a gwirfoddol. Mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal yn parhau hyd nes bod y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol wedi cytuno ar y cyd nad oes eu hangen ar y claf bellach.

Mae adran 75 o’r Deddf Gofal 2014 wedi diwygio adran 117 o Ddeddf 1983 i gynnwys diffiniad o "gwasanaethau ar ôl y gofal" (adran 117(6)) ac yn nodi'n glir pa awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy'n gyfrifol am gwrdd ag anghenion person am wasanaethau ôl-ofal (adran 117(3)).

Pan fo person yn arfer preswylio yng Nghymru yn syth cyn iddo fynd dan warchodaeth, bydd yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle’r oedd yn arfer preswylio yn gyfrifol am y ddarpariaeth o wasanaethau ôl-ofal. Pan fo person yn arfer preswylio yn Lloegr cyn iddo fynd dan warchodaeth, bydd yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yn Lloegr lle’r oedd yn arfer preswylio yn gyfrifol am y ddarpariaeth o wasanaethau ôl-ofal.

Mae adran 117(4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu ar anghydfodau ynglŷn â lle mae person yn arfer preswylio at ddibenion adran 117(3).

Erlyn troseddwyr o dan MHA 1983

O dan adran 130 o MHA 1983, mae gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol y pŵer i gychwyn achos ar gyfer rhai troseddau a gyflawnwyd o dan MHA 1983. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys cynorthwyo cleifion i ddianc a cham-drin neu esgeuluso cleifion yn fwriadol sy’n destun gwarcheidiaeth.

Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol

Mae gan awdurdodau lleol swyddogaethau hefyd o dan y Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Deddf 2005) i ddarparu Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (IMCAs) dan amgylchiadau penodol. Mae Deddf 2005 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau a gweithredu ar ran unigolion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain. Mae IMCAs yn cefnogi ac yn gweithio gyda phobl nad oes ganddynt alluedd, gan gyfleu eu safbwyntiau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol a newid llety.

O dan adran 39 o Ddeddf 2005, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi cyfarwyddyd i IMCAs sy’n cynorthwyo pobl nad oes ganddynt alluedd ac nad oes neb arall i’w cynorthwyo (ac eithrio staff sy’n cael eu talu) os ydynt yn cwblhau asesiad ac yn penderfynu darparu neu drefnu gwasanaethau gofal ar ffurf llety preswyl mewn cartref gofal neu mewn lleoliad cyfatebol. Mae’r ddyletswydd hon ond yn berthnasol i lety sy’n debygol o gael ei ddarparu am fwy nag 8 wythnos. Mae gan awdurdodau lleol yr un ddyletswydd i ddarparu IMCAs ar gyfer pobl sy’n eu hariannu eu hunain mewn llety hirdymor os yw’r awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan adran 47 o Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 ac yn penderfynu bod ganddo ddyletswydd tuag at y person (o dan adran 117 o Ddeddf 1983). Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth neu adroddiadau a gyflwynir gan IMCA gael eu hystyried fel rhan o’r broses o benderfynu a yw penderfyniad arfaethedig er budd pennaf y person.

Trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLS)

O dan y MCA 2005 os nad oes gan berson ag anhwylder meddwl y gallu i gydsynio i’w ofal neu ei driniaeth, a bod y cyfryw ofal neu driniaeth yn gyfystyr â’i amddifadu o’i ryddid (yn unol ag ystyr Erthygl 5 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol), bernir y bydd hawl y person hwnnw i ryddid yn cael ei thorri os nad yw’n cynnwys trefniadau diogelu penodol.

Mae’r DoLS yn darparu gwarchodaeth gyfreithiol i'r bobl hynny sy'n agored i niwed sydd wedi'u hamddifadu o’u rhyddid, neu a allai gael eu hamddifadu o’u rhyddid, mewn ysbyty neu gartref gofal p'un a ydynt o dan drefniadau cyhoeddus neu breifat. Byddai amddifadu o ryddid mewn unrhyw leoliad arall dim ond yn gyfreithlon pe bai'n ganlyniad o weithredu gorchymyn y Llys Gwarchod ar fater lles personol, yn unol â darpariaethau MCA 2005. Nid yw’r DoLS yn berthnasol i bobl sy’n cael eu cadw o dan MHA 1983.

Mae Atodlen 1A o MCA 2005 yn pennu’r broses ar gyfer rhoi’r cyfryw drefniadau diogelu ar waith a’r broses awdurdodi ofynnol i amddifadu personau o’u rhyddid yn gyfreithlon.

Mae’r trefniadau diogelu yn darparu ar gyfer gwneud amddifadu person o’i ryddid yn gyfreithlon drwy brosesau awdurdodi ‘safonol’ neu ‘brys’. Mae’r trefniadau diogelu rhag colli rhyddid yn nodi bod yn rhaid i ‘awdurdod rheoli’ ofyn am awdurdodiad ‘corff goruchwylio’ er mwyn amddifadu unigolyn o’i ryddid yn gyfreithlon. Mewn cartref gofal, yr awdurdod rheoli yw’r person cofrestredig, neu’r person y mae’n ofynnol iddo fod yn gofrestredig, o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn perthynas â’r cartref gofal. Y corff goruchwylio fydd yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae’r person yn preswylio fel arfer.

Mae awdurdodau lleol sy’n gweithredu fel corff goruchwylio yn gyfrifol am ystyried ceisiadau am awdurdodiadau, comisiynu’r asesiadau gofynnol a, lle mae’r holl asesiadau yn cytuno, awdurdodi amddifadu person o’i ryddid. Mae’n rhaid cwblhau 6 math o asesiad, gan gynnwys asesiad galluedd meddyliol ac asesiad budd pennaf. Mae’r Cod Ymarfer Amddifadu o Ryddid, sy’n ategu prif God Ymarfer y Deddf Galluedd Meddyliol 2005, yn rhoi arweiniad i awdurdodau awdurdodi ar sut i ystyried ceisiadau.

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (y Mesur) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol. Mae Rhan 1 yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol gydweithio i ehangu a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl ar lefel gofal sylfaenol ledled Cymru ar gyfer pobl o bob oed.

O dan y Mesur, mae’n rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol (byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol) gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun sy'n sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol. Bydd y cynllun a sefydlwyd o dan adran 2 yn gosod y trefniadau ar gyfer y gwasanaeth, gan gynnwys y math o driniaeth iechyd sylfaenol leol, ac ehangder y driniaeth honno, a fydd ar gael fel rhan o'r gwasanaeth, a pha bartner sy'n gyfrifol am wahanol agweddau'r gwasanaeth. Mae’n rhaid i’r partneriaid iechyd meddwl lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â’r cynllun y cytunwyd arno ar gyfer eu hardal. Er bod byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yn gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol yn cael eu darparu yn briodol, mae’n bosibl na fyddant yn darparu gwasanaethau bob amser, ac y bydd partneriaid lleol yn eu darparu. Gall gwasanaethau gynnwys cwnsela, rheoli straen a phryder, cyngor a chymorth ar gyfer rheoli cyflyrau fel dementia ac anhwylderau bwyta ac ati.

Mae adran 5 o’r Mesur yn nodi bod rhaid cwblhau asesiadau iechyd meddwl fel rhan o wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol. Mae’r cyfryw asesiadau yn asesiadau iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi cael eu gweld gan feddyg teulu, sydd o’r farn fod angen cynnal asesiad manylach, neu unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio drwy wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd

Mae rhan 2 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn sy’n cael ei dderbyn i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru fod â chydgysylltydd gofal penodedig a chynllun gofal a thriniaeth sy’n gymesur â’i angen clinigol. Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaethau ynglŷn â chydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth ar gyfer cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn cyfeirio at wasanaethau sy’n cael eu darparu ar gyfer unigolyn er mwyn trin ei iechyd meddwl, ac eithrio gwasanaethau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a/neu fel rhan o gynllun ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol.

Fel arfer, mae gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn darparu gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau meddwl mwy difrifol a/neu fwy parhaol lle mae angen darparu gofal arbenigol oherwydd lefel yr angen, risg a chymhlethdod. Bydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar lefel eilaidd yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer unigolion sy’n destun darpariaethau MHA 1983, gofal ysbyty i gleifion preswyl, a thimau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer oedolion ac oedolion hŷn. O ganlyniad, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sy’n darparu unrhyw wasanaethau iechyd meddwl eilaidd benodi cydgysylltwyr gofal ar gyfer personau sy’n derbyn y gwasanaethau hynny. Yn aml iawn, mae cleifion yn derbyn gwasanaethau gan eu bwrdd iechyd lleol a’u hawdurdod lleol, felly mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydweithio er mwyn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cleifion.

Mae Rhan 3 o’r Mesur yn ymdrin ag oedolion sydd wedi’u rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ond sy’n credu wedyn bod eu hiechyd meddwl yn gwaethygu i’r fath raddau nes bod angen y cyfryw ofal a thriniaeth arnynt eto.

O dan y rhan yma, mae gan y personau hyn yr hawl i’w hatgyfeirio eu hunain yn ôl i wasanaethau eilaidd yn uniongyrchol, heb orfod dychwelyd at eu meddyg teulu neu fynd i rywle arall o reidrwydd i gael eu hatgyfeirio. Mae’n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol fod â threfniadau ar waith i dderbyn hunanatgyfeiriadau fel hyn a chynnal asesiadau amserol.

Mae'r Cod Ymarfer i Ran 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn darparu canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys awdurdodau lleol, mewn perthynas â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Mesur.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021