Skip to main content

Gorfodi gan Awdurdod Cynllunio Lleol

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol (ACLlau) bwerau i orfodi achosion o dorri cyfraith cynllunio. Gall ACLlau orfodi’r achosion hyn drwy hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau torri amodau neu hysbysiadau rhybudd gorfodi.

Mae gan ACLlau y pŵer i wrthod penderfynu ar geisiadau cynllunio ôl-weithredol ar gyfer datblygiadau sy’n destun hysbysiad gorfodi.

Gall ACLl gyhoeddi hysbysiad atal hefyd i atal datblygiad neu weithgaredd rhag cael ei gyflawni gan dorri rheolau cynllunio. Dim ond ar ôl neu ar yr un pryd â chyflwyno hysbysiad gorfodi a chyn i’r hysbysiad gorfodi ddod i rym y gall hysbysiad atal gael ei gyflwyno.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau wrth gefn i gyhoeddi hysbysiad gorfodi neu hysbysiad atal gyda'r un grym â hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACLl.

Os gwneir apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi i Weinidogion Cymru, efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd cynllunio fel dewis arall i gynnal yr hysbysiad gorfodi.

Os yw ACLl yn ystyried bod achos o dorri rheolau cynllunio'n ddigon difrifol, gall wneud cais i'r Llysoedd am waharddeb.  

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Mehefin 2021