Goruchwylio a gorfodi
Yr awdurdod lleol neu Arolygwyr Cymeradwy sy’n gyfrifol am wirio fod y Rheoliadau Adeiladu wedi cael eu bodloni yn eiddo'r awdurdod lleol neu Arolygwyr Cymeradwy. Gall y person sy'n gwneud y gwaith ddewis ble i gael cymeradwyo'r gwaith adeiladu.
"Arolygwyr Cymeradwy" yw pobl wedi eu hawdurdodi dan y Ddeddf Adeiladu 1984 i wirio bod gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i weld bod gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu os nad yw'r gwaith dan reolaeth Arolygwyr Cymeradwy.
Nid oes gan Arolygwyr Cymeradwy bwerau gorfodi. Yn hytrach, os yw Arolygwr Cymeradwy'n ystyried nad yw gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, ni fydd yr Arolygwr Cymeradwy'n rhoi tystysgrif derfynol. Yn ogystal, bydd yr Arolygwr Cymeradwy'n canslo'r hysbysiad gwreiddiol drwy roi gwybod i'r awdurdod lleol. (Hysbysiad ar ffurf penodedig yw'r hysbysiad gwreiddiol a chaiff ei roi i'r awdurdod lleol ar y cyd gan berson sy'n bwriadu ymgymryd â'r gwaith, neu gan berson sy'n arolygwr cymeradwy parthed â'r gwaith hwnnw cyn i'r gwaith gychwyn.) Os na fydd Arolygwr Cymeradwy arall yn ymgymryd â'r gwaith, bydd yr arolygu'n cael ei wneud yn awtomatig gan yr awdurdod lleol.
Mae mynd yn groes i'r Rheoliadau Adeiladu yn drosedd a gall yr awdurdod lleol neu berson arall gychwyn achos troseddol. Y cosb yw dirwy gychwynnol a dirwy bellach am bob dydd y bydd y diffyg yn parhau ar ôl y gollfarn.
Fel arfer bydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau yn erbyn yr adeiladwr neu'r prif gontractwr a rhaid i'r achos gael ei gychwyn o fewn dwy flynedd i orffen y gwaith. Fel arall, neu yn ogystal, gall yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad gorfodi i'r perchennog yn galw arnynt i newid neu i gael gwared ar waith sy'n torri'r Rheoliadau Adeiladu. Os na fydd y perchennog yn cydymffurfio â'r hysbysiad mae gan yr awdurdod lleol y pŵer i ymgymryd â'r gwaith ei hun ac adfer y gost o wneud hynny gan y perchennog.
Ni all hysbysiad gorfodi gael ei gyflwyno fwy na 12 mis ar ôl dyddiad cwblhau'r gwaith adeiladu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl awdurdod lleol (na hawl unrhyw berson arall) i wneud cais i'r Llysoedd am waharddeb. Ymhellach, ni all awdurdod lleol gymryd camau gorfodi os cafodd y gwaith dan sylw ei wneud yn unol á chynlluniau gafodd gymeradwyaeth yr awdurdod lleol neu y methodd yr awdurdod lleol eu gwrthod o fewn yr amser statudol o bum wythnos (neu ddau fis drwy gytundeb) ar ôl cyflwyno'r cynlluniau.