Skip to main content

Gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol

Mae paragraff 177 o Atodlen 7A i’r Government of Wales Act 2006 (wedi'i diwygio) yn rhestru mabwysiadu fel mater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae'r rhestr o eithriadau'n cynnwys gwasanaethau a chyfleusterau mewn perthynas â mabwysiadu, asiantaethau mabwysiadu a'u swyddogaethau, ac felly mae gwasanaethau mabwysiadu, sy'n cynnwys gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, yn fater datganoledig.

Mae Rhan 1 o’r Adoption and Children Act 2002 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru gynnal gwasanaeth yn eu hardal er mwyn diwallu anghenion plant sydd angen lleoliad mabwysiadu, er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n dymuno mabwysiadu plentyn a diwallu anghenion rhieni a gwarcheidwaid plant i’w mabwysiadu, rhai a gafodd eu mabwysiadu yn y gorffennol, eu rhieni naturiol a’u rhieni mabwysiedig.

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol yn cwmpasu’r broses fabwysiadu o’r cais cychwynnol am asesiad gan ddarpar fabwysiadwyr a’r asesiad dilynol, argymhellion gan y panel mabwysiadu, y penderfyniad bod plentyn yn addas ar gyfer ei fabwysiadu, paru a rhoi plentyn gyda darpar fabwysiadwyr a darparu cymorth mabwysiadu ar gyfer pobl benodol a gaiff eu heffeithio gan y broses fabwysiadu. Mae dyletswyddau awdurdodau lleol yn hyn o beth i’w gweld yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005.

Dyletswydd awdurdod lleol yw darparu gwasanaeth cymorth domestig a rhwng gwledydd. Mae gofynion penodol ar awdurdodau lleol o ran mabwysiadu rhwng gwledydd i’w gweld yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ac Adoptions with a Foreign Element Regulations 2005. Bydd y prosesau y mae angen i awdurdodau lleol eu dilyn mewn achosion mabwysiadu rhwng gwledydd yn dibynnu a yw’r achos yn ymwneud ag achos mabwysiadu sy’n unol â Chonfensiwn yr Hag 1993. Mae Canllawiau Mabwysiadu Llywodraeth Cymru a’r Canllawiau Mabwysiadu Rhwng Gwledydd cysylltiedig yn bwynt cyfeirio pwysig.

Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 yn darparu fframwaith rheoleiddiol ar gyfer gwaith trefnu, rheoli ac ymddygiad gwasanaeth mabwysiadu’r awdurdod lleol - gan gynnwys materion fel pa mor addas yw’r staff, pa mor addas yw’r adeiladau a sicrhau ansawdd. Mae gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru yn cael eu harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n arfer ei phwerau o dan Ran 8 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yma yng Nghymru, mae awdurdodau lleol wedi’u grwpio’n bum cydweithfa ranbarthol. O fewn y rhain wedyn, mae awdurdodau lleol yn llunio trefniadau partneriaeth er mwyn cyflawni eu dyletswyddau mabwysiadu statudol. Mae’r awdurdodau lleol hefyd yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau mabwysiadu statudol, adrannau addysg lleol, byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’r trefniadau cydweithio hyn yn digwydd dan nawdd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Y Gwasanaeth hwn sy’n cadw llygad ar gynnal a datblygu gwasanaethau mabwysiadu ym mhob cydweithfa ranbarthol a ledled Cymru. Daeth Cyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) 2015 fel sail i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021