Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru
Mae Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru’n sefydliad anwleidyddol sy’n gwasanaethu pwy bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd, beth bynnag fo’u cyfansoddiad gwleidyddol.
Mae Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru’n cael ei arwain gan yr Ysgrifennydd Parhaol, sef Andrew Goodall ar hyn o bryd.
Gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil
Gwerthoedd craidd Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw bod yn ddiduedd yn wleidyddol, gweinyddu effeithlon, llywodraethu cadarn a rheoli cronfeydd cyhoeddus yn gadarn.
Mae’n ofynnol i weision sifil Cymru:
- cynnal y safonau ymddygiad craidd sydd yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: gonestrwydd, uniondeb, gwrthrychedd ac amhleidioldeb- ac yng nghod staff Llywodraeth Cymru ei hun.
- cydymffurfio â Chod Ymddygiad Llywodraeth Cymru;
- arfer stiwardiaeth briodol dros arian cyhoeddus a sicrhau bod gwariant yn rhoi gwerth am arian ac yn cydymffurfio â gofynion rheoleidd-dra a phriodoldeb;
- rhoi egwyddorion datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud, gan ganolbwyntio ar les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau;
- dangos arloesedd a bod yn barod i gymryd risgiau wedi’u rheoli’n dda a dysgu gwersi;
- sicrhau cyn lleied o gymhlethdod a biwrocratiaeth â phosibl yn gyson â gofynion gweinyddu da.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
25 Ebrill 2022