Skip to main content

Gwneud gwaith ar eich cartref – pryd mae angen caniatâd cynllunio arnoch?

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Erica Ives, Irwin Mitchell.

 

Wrth benderfynu p’un a ydych am wneud unrhyw waith ar eich cartref, dylech bob amser wirio p’un a oes angen caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Yn ddefnyddiol, mae llawer o waith ar y cartref domestig yn destun hawliau datblygu a ganiateir ac felly nid oes angen cais am ganiatâd cynllunio. 

Beth yw hawliau datblygu a ganiateir? 

Mae hawliau datblygu a ganiateir wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“Gorchymyn 1995”) ac i bob pwrpas yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith y byddai angen caniatâd cynllunio penodol fel arfer arno. 

Hawliau datblygu a ganiateir i aelwydydd

Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995, gyda gwaith datblygu sydd o fewn dosbarthiadau A – H yn cael ei ganiatáu o fewn cwrtil tŷ annedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cwrtil tŷ yn gyfystyr â ffin yr eiddo. Fodd bynnag, efallai y bydd angen rhoi ystyriaeth bellach i hyn ar gyfer eiddo ar ystadau mwy, fel fferm, neu lle mae llety gwyliau ar y tir. Yn yr achosion hyn, bydd y cwrtil ond yn ymestyn i'r tir o amgylch yr eiddo a ddefnyddir at ddibenion sy’n atodol i'r tŷ, e.e. fel gardd. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ar y pwynt hwn, mae bob amser yn well ceisio cyngor. 

Mae pob hawl datblygu a ganiateir yn destun cyfyngiadau ac amodau manwl y mae'n rhaid eu gwirio cyn i unrhyw waith gael ei wneud. 

Dosbarth A – ehangu neu wella tŷ annedd neu unrhyw addasiad arall iddo

Mae hyn yn caniatáu estyniadau i dŷ. Mae amodau/cyfyngiadau allweddol yn cynnwys: 

  • Cyfyngiadau ar faint yr estyniad ac uchder y to a'r bondo.
  • Ni chaniateir estyniadau i'r brif wedd (fel arfer ochr y tŷ sy'n wynebu'r ffordd) a chyfyngir ar y rheini i weddau ochr, yn arbennig ar blotiau cornel.
  • Rhaid i'r deunyddiau a ddefnyddir gydweddu ag edrychiad y tŷ presennol. 
  • Efallai y bydd angen mecanweithiau cynnal preifatrwydd / cuddio ar ffenestri'r llawr uchaf

Dosbarth B – ychwanegiadau ac ati i do tŷ annedd

Mae hyn yn caniatáu addasu'r atig. Mae amodau/cyfyngiadau allweddol yn cynnwys:

  • Cyfyngiadau ar uchder y to, maint y gofod yn y to sydd wedi’i ehangu, a maint unrhyw falconi. 
  • Cyfyngiadau mewn perthynas â ffenestri dormer ar brif weddau a gweddau ochr.
  • Rhaid i'r deunyddiau a ddefnyddir gydweddu ag edrychiad y tŷ presennol. 
  • Efallai y bydd angen mecanweithiau cynnal preifatrwydd / cuddio ar ffenestri.

Dosbarth C – addasiadau eraill i do tŷ annedd

Mae hyn yn caniatáu gosod ffenestri yn y to ar yr amod nad yw'r rhain yn ymestyn o'r to mwy na 15cm (pan fyddant ar gau). 

Dosbarth D – cynteddau

Mae terfyn maint o 3m² neu lai yn berthnasol.

Dosbarth E – adeiladau ac ati sy'n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd

Mae hyn yn cynnwys siediau, gweithdai, pyllau nofio, pyllau dŵr, llwyfannau uwch, a thanciau olew/nwy ar gyfer gwresogi domestig. Mae hyn hefyd yn caniatáu adeileddau ar gyfer cadw anifeiliaid ar yr amod eu bod ar gyfer mwynhad domestig neu bersonol yn hytrach na rhai sy'n ymwneud â busnes. 

Dosbarth F – arwynebau caled sy’n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd

Mae hyn yn caniatáu gosod dreif neu batio, er na fyddai’n cynnwys creu pwynt mynediad newydd i'r eiddo.

Dosbarth G – simneiau, ffliwiau ac ati ar dŷ annedd

Dosbarth H – antenau microdon ar dŷ annedd

Mân weithrediadau 

Mae'r rhain yn cynnwys gosod gatiau, ffensys, waliau a mathau eraill o amgaeadau yn amodol ar gyfyngiadau uchder, paentio adeiladau, a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan. 

Technolegau adnewyddadwy 

Gosod paneli solar neu gyfarpar solar annibynnol, pympiau gwres o'r ddaear neu ffynhonnell aer, a thyrbinau gwynt.

Cyfyngiadau ac eithriadau 

Nid yw rhai hawliau yn berthnasol neu maent wedi eu cyfyngu ar gyfer eiddo sydd o fewn neu gerllaw ardal gadwraeth, Safle Treftadaeth y Byd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, adeilad rhestredig neu Barc Cenedlaethol. Caiff awdurdodau lleol hefyd wneud cyfarwyddiadau Erthygl 4 sy’n dileu hawliau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd penodol. Felly mae'n bwysig gwirio'r pwyntiau hyn yn ogystal â'r amodau a'r cyfyngiadau a restrir uchod.

Dylid nodi hefyd y bydd angen caniatâd adeiladu ar wahân o hyd ar gyfer unrhyw adeilad rhestredig. 

Canllawiau technegol

I gael arweiniad technegol manylach, gellir darllen y ddogfen ganlynol: Caniatâd cynllunio: hawliau datblygu a ganiateir i aelwydydd | LLYW.CYMRU. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
28 Hydref 2022