Llywodraeth leol - beth sydd wedi ei ddatganoli?
Datganoli pŵer deddfwriaethol
Mae cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru wedi’u nodi yn y Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017. Yn gyffredinol, mae'r gyfraith sy'n ymwneud â llywodraeth leol wedi'i datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, mae angen bod yn ymwybodol o rai eithriadau, gan gynnwys y canlynol:
- Heddlu a chyfiawnder troseddol
- Cofrestru genedigaethau, marwolaethau a lleoedd addoli
- Trwyddedu darpariaeth adloniant a lluniaeth hwyr gyda'r nos, a gwerthu a chyflenwi alcohol
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Masnachu ar y Sul
Rhwng 2007 a 2011, gallai (ar y pryd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu trwy Fesur os oedd y pŵer penodol i ddeddfu ar bwnc wedi’i drosglwyddo trwy orchymyn y Cyfrin Gyngor wedi’i wneud o dan GoWA 2006 (sef gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol neu 'GCD'). Gwnaed dau Fesur y Cynulliad yn ymwneud â llywodraeth leol ac maent yn dal mewn grym; Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Yn dilyn refferendwm yn 2011, enillodd Senedd Cymru bwerau llunio cyfreithiau sylfaenol o ran pynciau penodol heb orfod cynnwys San Steffan na Whitehall. Rhestrodd Atodlen 7 i GoWA 2006 y pynciau y mae'n rhaid i ddarpariaeth mewn Deddf Senedd Cymru fod yn berthnasol iddynt, er mwyn bod o fewn pwerau deddfu'r Senedd Cymru. Mae Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 i gyd yn enghreifftiau o ddeddfwriaeth sylfaenol a luniwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (Mai 2011 – Mai 2016).
Mae'r Deddf Cymru 2017 yn diwygio GoWA 2006 drwy symud i fodel datganoli sy’n ymwneud â chadw pwerau i Gymru. Mae'r newid o fodel rhoi pwerau yn golygu y gall Senedd Cymru ddeddfu ar unrhyw bwnc heblaw am y rhai hynny a gedwir yn benodol gan Senedd y DU. Un o'r newidiadau mawr sy'n effeithio ar lywodraeth leol yw bod etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru fel arfer wedi'u datganoli ers y Deddf Cymru 2017. Ond mae materion penodol o ran etholiadau ar gyfer aelodaeth Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru wedi'u cadw yn Atodlen 7A i GoWA 2006. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch etholiadau ar gael ar dudalennau etholiadau.
Yn ogystal â’r Deddfau Seneddol sy’n gwneud darpariaeth yn ymwneud â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru, mae nifer o Ddeddfau sy’n gosod dyletswyddau neu’n rhoi swyddogaethau i awdurdodau lleol. Hefyd, mae pwerau i wneud gorchmynion, rheolau a rheoliadau’n ymwneud â llywodraeth leol o dan y deddfiadau hyn, Mae materion penodol yn aml yn cael eu gadael i’w rhagnodi trwy orchymyn neu reoliadau.
Datganoli pŵer gweithredol
Darparodd y Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (GoWA 1998) ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth Weinidogion Llywodraeth y DU i Senedd Cymru. O dan GoWA 2006, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oddi wrth Senedd Cymru i Weinidogion Cymru. Bellach, mae Gweinidogion Cymru’n gweithredu mwyafrif y pwerau gweithredol ac is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â llywodraeth leol pa un a yw’r pwerau hynny wedi trosglwyddo trwy Ddeddf Senedd Cymru neu Ddeddf Senedd y DU.
O ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau, dylid darllen statudau a ddeddfwyd cyn cychwyn GoWA 2006 (ym mis Mai 2007) gyda gofal. Gan amlaf, ond nid bob tro, bydd cyfeiriadau at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' bellach yn golygu 'Gweinidogion Cymru' pan gânt eu defnyddio mewn perthynas â Chymru. Pan drosglwyddwyd swyddogaethau yn unswydd i (ar y pryd) Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn Deddfau Senedd y DU rhwng 1999 a 2007, dylid darllen y swyddogaethau hynny hefyd fel rhai y gellid eu gweithredu gan 'Weinidogion Cymru'.