Skip to main content

Mae achos nodedig Hillside Parks Ltd yn erbyn Parc Cenedlaethol Eryri yn 2022 wedi ysgwyd byd y gyfraith.

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Claire Petricca-Riding, Irwin Mitchell.

Fel arfer, bydd ceisiadau cynllunio yn cael eu pennu gan yr awdurdod cynllunio lleol. Er hynny, gall Gweinidogion Cymru benderfynu ar y ceisiadau eu hunain mewn rhai achosion. Yn achos Hillside Parks, Cyngor Sir Feirionnydd a roddodd y caniatâd cynllunio gwreiddiol yn 1967. Caniatâd oedd hwn i godi 401 o gartrefi ar y llethrau uwchben Aberdyfi, Gwynedd. 

Y llynedd, dyfarnodd Goruchaf Lys y DU na all Hillside Parks Ltd ddibynnu ar y caniatâd a roddwyd yn 1967. 

Ers 1967, dim ond 41 o'r 401 o’r tai arfaethedig sydd wedi'u hadeiladu. Nid oes yr un ohonynt yn unol â'r cynlluniau gwreiddiol. Dros y blynyddoedd, mae sawl cynllun arall wedi eu caniatáu ar yr un safle, gyda phob un ond dau yn cael eu gweithredu. Fe wnaeth Hillside Parks Ltd, perchennog presennol y safle, ddwyn achos yn erbyn Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth. Roedden nhw'n honni bod y cynllun gwreiddiol yn dal i fod yn ddilys, felly gallai'r datblygiad barhau. 

Dyfarnodd y Goruchaf Lys fod datblygiadau a wnaed ers i'r cynllun gwreiddiol gael ei roi yn ei gwneud hi'n "amhosib" i'r cynlluniau gwreiddiol fynd yn eu blaen. Ailddatganodd y Goruchaf Lys 'egwyddor Pilkington'. Mae hyn yn nodi nad yw caniatâd cynllunio yn awdurdodi datblygiad os a phryd y caiff y tir ei newid i'r pwynt ei bod yn amhosibl cwblhau’r datblygiad. 

Mae system 'dan arweiniad cynllun' Cymru, a atgyfnerthwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, yn caniatáu i rai ceisiadau cynllunio gael eu gwneud i Weinidogion Cymru yn hytrach nag awdurdodau cynllunio lleol. Mae hefyd yn gwneud y system apelio yn fwy tryloyw. 

Fe achosodd dyfarniad y Goruchaf Lys gynnwrf gan ei fod wedi gadael y drws ar agor i gyfreithwyr ddadlau y gallai caniatâd gael ei hollti’n rhannau. 

Mae'r dyfarniad hefyd yn golygu rhwystrau posibl ar gyfer safleoedd lle mae datblygiadau eisoes ar y gweill a lle mae angen ailgynllunio rheolaidd a chynllunio newydd. Ar gyfer cynlluniau ar raddfa fawr o'r fath, mae angen hyblygrwydd. Fodd bynnag, gellid colli'r hyblygrwydd hwn oherwydd digwyddiadau fel achos Hillside. 

Fel Partner yn Nhîm Cynllunio Irwin Mitchell, gallaf weld efallai na fydd ceisiadau newydd yn mynd i'r drafferth hon cyn belled â'u bod yn cael eu creu gyda hyn mewn golwg. Fodd bynnag, gallai safleoedd sydd â gwaith sydd eisoes ar y gweill wynebu problemau. Ar gyfer ceisiadau newydd, rydym yn edrych i ddiogelu at y dyfodol cystal ag y gallwn, sicrhau bod modd eu hollti gorau y gallwn, ac adeiladu hyblygrwydd cystal ag y gallwn. Mae'n haws ei reoli oherwydd eich bod yn edrych ymlaen. Edrych yn ôl sy’n achosi’r cur pen mwyaf. 

Mae gan y Goruchaf Lys fwy o waith i'w wneud o ran diffinio'r amodau sy'n ymwneud â'r mathau hyn o achosion. Nid ydynt wedi ystyried yr holl faterion. Rwy'n credu mai'r pwynt ar hyn o bryd yw bod yn rhaid cydnabod y risgiau sy'n gysylltiedig â drafftio amodau a chaniatad. Gallai hyn olygu y gallai fod angen diwygio system dan arweiniad cynllun Cymru. 

Gallwch wrando ar bodlediad Irwin Mitchell ar Hillside Parks Ltd yn erbyn Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, sy'n trafod mwy ar yr achos hwn a'i effaith bosibl ar gynllunio yn y rhanbarth. Er gwybodaeth, dim ond yn Saesneg mae’r podlediad ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Gorffennaf 2023