Skip to main content

Mesur Addysg (Cymru) 2009

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 (y Mesur) yn rhoi’r hawl i blant wneud apeliadau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Drwy wneud hynny, mae’r Mesur yn rhoi mynegiant ymarferol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Nodau Craidd cysylltiedig Llywodraeth Cymru.

Nod y Mesur yw darparu diogelwch ychwanegol i sicrhau y gellir diwallu anghenion plant a phobl ifanc anabl a’r rhai ag AAA, drwy leihau’r posibilrwydd na fydd eu hanghenion yn cael sylw llawn os nad yw eu rhieni yn gwneud apêl neu hawliad eu hunain. Mae hefyd yn rhoi hawl annibynnol i blant ag AAA (gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal) apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir am eu hanghenion cymorth addysg.

Gwneir darpariaeth gysylltiedig hefyd ar gyfer y canlynol mewn ysgolion:

  • gwasanaethau cyngor a gwybodaeth;
  • trefniadau amgen ar gyfer datrys anghydfod;
  • gwasanaethau eirioli annibynnol;
  • treialu’r darpariaethau yn Rhan 1 y Mesur;
  • y cwricwlwm.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth adran 24 i 27 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 9 Chwefror 2010), yn unol ag adran 26(1).

Daeth paragraffau 10 i 12 o’r Atodlen i rym ar 9 Rhagfyr 2009, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 26(2).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 26(3).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei wneud o dan y Mesur:

Enw RhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 20142014 Rhif 3267 (Cy. 334)11 Rhagfyr 20145 Ionawr 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 20122012 Rhif 321 (Cy. 52) 8 Chwefror 20126 Mawrth 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 20112011 Rhif 1651 (Cy. 187)5 Gorffennaf 20116 Gorffennaf 2011Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 27 Ebrill 2009 gan Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Tachwedd 2009.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Rhagfyr 2009.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mai 2024