Mesur Addysg (Cymru) 2011
Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn rhoi cyfres o bwerau a dyletswyddau ar waith i wneud cydweithio’n gyffredin yn y system addysg er mwyn gwella llywodraethiant ysgolion a symleiddio’r ffordd y caiff lleoedd ysgol eu cynllunio yng Nghymru.
Mae'r Mesur yn:
- ysgogi cydweithio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach;
- rhoi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ysgolion;
- hyfforddi llywodraethwyr ysgol a gwella clercio cyrff llywodraethu; ac
- atal ysgolion rhag newid categori yn y dyfodol er mwyn dod yn ysgolion sefydledig ac atal ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu hadeiladu.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Dod i rym
Daeth adrannau 26 i 34 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol yn unol ag adran 33 (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011).
Daw gweddill y darpariaethau i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn. Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014
- Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013
- Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2012
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 6 Rhagfyr 2010 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 29 Mawrth 2011.
Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.