Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009
Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (y Mesur) yn darparu polisi cyfannol a chynhwysfawr ar faeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi ar gyfer pob disgybl a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn:
- gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir ac awdurdodau addysg lleol i hyrwyddo bwyta’n iach ac yfed;
- rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’n fanwl gynnwys y bwyd a weinir mewn ysgolion, gan gynnwys pwerau i bennu lefelau uchaf o fraster, braster dirlawn, halen a siwgr mewn bwyd a ddarperir i ddisgyblion;
- gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod cyflenwad o ddŵr ar gael yn rhad ac am ddim; ac yn
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo’r ffaith fod prydau ysgol a llaeth yn gyffredinol, a chinio ysgol a llaeth am ddim yn benodol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Dod i rym
Daeth adran 12 o’r Mesur i rym ar 15 Hydref 2009, sef y diwrnod cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 12(2).
Mae gweddill y darpariaethau yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 12(3). Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Gorchymyn Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013
Is-deddfwriaeth sydd wedi ei wneud o dan y Mesur:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 | 2014 Rhif 3087 (Cy. 308) | 18 Tachwedd 2014 | 13 Rhagfyr 2014 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 | 2014 Rhif 1303 (Cy. 227) | 28 Awst 2014 | Gweler rheoliad 1(3) i (6) | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 | 2013 Rhif 1303 (Cy. 227) | 25 Hydref 2013 | 20 Tachwedd 2013 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 | 2013 Rhif 1984 (Cy. 194) | 8 Awst 2013 | 2 Medi 2013 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 14 Mawrth 2008 gan Jenny Randerson AC. Roedd Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) yn darparu y gallai Aelodau meinciau cefn y Cynulliad gyflwyno Mesurau’r Cynulliad os oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn maes polisi. Roedd Jenny Randerson AC yn Aelod o feinciau cefn y Cynulliad pan gyflwynodd y Mesur.
Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 8 Mehefin 2009.
Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Hydref 2009.
Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig.
- Bwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir: canllawiau statudol | LLYW.CYMRU – 30 Mehefin 2014
- Effaith bwyd a diod mewn ysgolion ar ganlyniadau disgyblion (senedd.cymru)