Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn sefydlu swydd annibynnol Comisiynydd Safonau’r Senedd. Ei rôl yw hyrwyddo, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt). Mae hyn yn cynnwys:
- derbyn cwynion yn erbyn aelodau’r Senedd, ymchwilio iddynt ac adrodd ar y canlyniad
- cynghori ar weithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ac ymchwilio iddynt
- cynghori ar egwyddorion o ran ymddygiad Aelodau’r Senedd, gweithdrefnau ymchwilio i gwynion a hyrwyddo safonau ymddygiad uchel
- adrodd yn flynyddol i’r Senedd.
Mae’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon perthnasol ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd ac yn ei gwneud yn drosedd os nad ydynt yn cydymffurfio, y gellir ei chosbi â dirwy.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen), 20 a 21 i rym ar 10 Rhagfyr 2009, sef y diwrnod ar ôl i’r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, yn unol ag adran 21(2). Daeth gweddill darpariaethau’r Mesur i rym y diwrnod ar ôl i hysbysiad o dan is-adran 21(3) gael ei gyhoeddi.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur:
Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Mesur hwn.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig gan Jeff Cuthbert, a oedd y Gadeirydd y Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad ar y pryd, ar 25 Mawrth 2009. Cafodd ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) ar 14 Hydref 2019.
Mae rhagor o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd yn cael ei adnabod bryd hynny) a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan y Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad (pan gyflwynwyd y Mesur).
Cafodd y Bil Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Rhagfyr 2009.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
Comisiynydd Safonau Cymru | Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon