Skip to main content

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mae Mesur Diogelwch ar Gludiant Dysgwyr (Cymru) 2011 (‘Mesur 2011’) yn gwneud diwygiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nod y gwelliannau hyn yw cyflawni amcan Llywodraeth Cymru o wella delwedd ddiogelwch a phrofiadau teithio ar gerbydau penodedig sy’n darparu cludiant i’r ysgol, a sicrhau bod safonau diogelwch yn ddigon uchel i’r cyhoedd a rhieni fod â hyder mewn cludiant penodedig ar gyfer dysgwyr.

Mae Mesur 2011 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru (ym Mesur 2008) i wneud rheoliadau i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i:

  • gosod gwregysau diogelwch priodol; 
  • defnyddio cerbydau unllawr yn unig; 
  • defnyddio bysiau sydd wedi eu gweithgynhyrchu ar ôl dyddiad penodol;
  • gosod camerâu cylch cyfyng ar fysiau; 
  • defnyddio cerbydau sy’n bodloni’r fanyleb ar gyfer “bysiau melyn”; 
  • darparu’r safonau perthnasol o ran hyfforddiant gyrwyr; 
  • cynnal asesiadau risg diogelwch; 
  • darparu staff i oruchwylio bysiau ysgol; a 
  • darparu manylebau mewn perthynas â thacsis a cherbydau hurio preifat.

Er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r dyletswyddau hyn, mae diwygiadau Mesur 2011 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i:

  • creu troseddau os yw darparwyr cludiant ar gyfer dysgwyr yn torri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu â bodloni’r gofynion rhagnodedig;
  • creu trefn sancsiynau sifil os yw darparwyr cludiant ar gyfer dysgwyr yn torri’r rheoliadau diogelwch drwy fethu â bodloni’r gofynion rhagnodedig;
  • sefydlu corff gorfodi i orfodi rheoliadau; a
  • sefydlu tribiwnlys ar gyfer apeliadau.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth adran 1 o Fesur 2011 i rym ar 1 Hydref 2014 yn unol ag adran 16(1). 

Daeth gweddill darpariaethau’r Mesur i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011 ).

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan Fesur 2011; mewnosodwyd y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ym Mesur 2008.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Mesur ar 20 Medi 2010 gan Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 22 Mawrth 2011.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Mesur arfaethedig). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Chwefror 2024