Skip to main content

Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

Cafodd Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) gan Ann Jones AC ym mis Gorffennaf 2010, yn dilyn ei hymgyrch i wella diogelwch tân a lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau mewn lleoliadau preswyl. Cyflwynodd y Mesur ofynion newydd ar gyfer cynnwys systemau atal tân awtomatig (a elwir fel arfer yn systemau chwistrellu dŵr) i bob preswylfa newydd ac wedi ei throsi yng Nghymru. Ar adeg cyflwyno’r Mesur, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU oedd rheoli adeiladau, gan gynnwys y Rheoliadau Adeiladu (y prif ddull o sicrhau cydymffurfedd â safonau adeiladu). Y Mesur felly oedd y mecanwaith deddfwriaethol mwyaf effeithiol oedd ar gael i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd i fynnu systemau chwistrellu dŵr er mwyn atal tanau mewn adeiladau newydd a rhai a addaswyd.

Cafodd y Mesur ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Chwefror 2011 a chafodd y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 7 Ebrill 2011. Yn dilyn hynny rhoddwyd cyfnod gweithredu ar waith i alluogi’r sectorau adeiladu a thai i baratoi ar gyfer newid y gofynion. Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd cyfrifoldeb am y system rheoli adeiladu ei ddatganoli i Weinidogion Cymru. Yn dilyn ymgynghoriad ar weithredu Mesur 2011, ac oherwydd bod Gweinidogion Cymru bellach yn gallu gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau Adeiladu, dim ond adran 1 o Fesur 2011 a gafodd ei ddwyn i rym. Mae’r defnydd o’r Rheoliadau Adeiladu (a’r Dogfennau Cymeradwy cysylltiedig) i sicrhau bod systemau atal tân awtomatig yn cael eu gosod yn parhau hyd heddiw.

Dod i rym

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Gorchymyn Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2013

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 20132013 Rhif 2730 (Cy. 264)22 Hydref 2013Yn unol â rheoliad 1(2)
 
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 20132013 Rhif 2723 (Cy. 261)22 Hydref 201330 Ebrill 2014Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Rhagor o wybodaeth

Darparodd Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) i Fesurau’r Cynulliad gael eu cyflwyno gan Aelodau meinciau cefn y Cynulliad os oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn maes polisi. Roedd Ann Jones AC yn Aelod o feinciau cefn y Cynulliad pan gyflwynodd y Mesur.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Ann Jones AC.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Mai 2024