Skip to main content

Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

Mae Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn nodi paramedrau sylfaenol yr ardoll sy’n cefnogi’r diwydiant cig coch yn ariannol. Caiff yr arian sy’n cael ei godi ei wario ar ddatblygu a hybu’r amrywiol weithgareddau sy’n cael eu nodi yn Atodlen 1.  Mae “diwydiant cig coch” yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n rhan o fridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu gwartheg, defaid a moch (byw neu farw) a chynhyrchion sy’n deillio o’r anifeiliaid hynny (ar wahân i laeth a chynhyrchion llaeth, gwlân cnu a chrwyn).

Mae’r Mesur yn dileu’r angen i Gorff Cyhoeddus a noddir gan Senedd Cymru fod yn ei le i reoli’r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru, ac yn gwneud Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol atebol am y diwydiant hwnnw. Mae hefyd yn cyflwyno cytundeb dirprwyo newydd rhwng Gweinidogion Cymru a Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales i ddarparu fframwaith hyblyg sy’n gallu cefnogi mecanweithiau amgen ar gyfer pennu a chasglu’r ardoll cig coch.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth adran 17 i 19 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 11 Gorffennaf 2010), yn unol ag adran 18(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 18(2).

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei wneud o dan y Mesur:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Diwydiant Cig Coch (Dynodi Cigyddwyr ac Allforwyr) (Cymru) 20122012 Rhif 247 (Cy. 40)1 Chwefror 20121 Ebrill 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 20112011 Rhif 2946 (Cy. 319)6 Rhagfyr 20111 Ebrill 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 19 Hydref 2009 gan Elin Jones AS, y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Mawrth 2010.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 11 Mai 2010.

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
13 Rhagfyr 2024