Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 ('y Mesur') oedd y Mesur cyntaf a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.
Mae'r Mesur yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru greu'r prosesau sydd i'w dilyn gan gyrff y GIG yng Nghymru wrth ddelio â sefyllfaoedd lle, yn dilyn ymchwiliad cychwynnol, y penderfynir y gallai fod esgeulustod ond lle mae'r iawndal sy'n deillio o hyn yn debygol o fod o werth cymharol isel. Mae hyn er mwyn rhoi'r gallu i gleifion sicrhau iawn heb droi at achosion cyfreithiol ffurfiol yn y llysoedd.
Mae'r Nodiadau Esboniadol i'r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Dod i rym
Daeth adran 14 i rym ar 9 Gorffennaf 2008, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Cydsyniad Brenhinol.
Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar 7 Chwefror 2011 yn unol â’r Gorchymyn canlynol:
Gorchymyn Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Cychwyn) 2011
Is-deddfwriaeth sydd wedi ei wneud o dan y Mesur:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023 | 2023 Rhif. 281 (C. 42) | 7 Mawrth 2023 | 1 Ebrill 2023 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011 | 2011 Rhif. 1706 (C.192) | 11 Gorffennaf 2011 | 3 Awst 2011 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 | 2011 Rhif. 704 (C.108) | 8 Mawrth 2011 | Daeth rhannau 1 i 6, ac 8 i 10 i rym ar 1 Ebrill 2011. Daeth rhan 7 i rym ar 1 Hydref 2011. | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 2 Gorffennaf 2007 gan Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 6 Mai 2008.
Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy'r Senedd a'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (adeg cyflwyno’r Mesur arfaethedig).
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Gorffennaf 2008.