Skip to main content

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau o natur strategol. Pan basiwyd y Mesur hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i integreiddio’r CCUHP i gyfraith ddomestig. Mae’r Mesur hefyd yn:

  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer sicrhau cydymffurfedd â’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau yn y CCUHP. Cyhoeddwyd y Cynllun Plant cyntaf yn 2014 a chyhoeddwyd y Cynllun diweddaraf yn 2021 (gweler ‘gwybodaeth gysylltiedig’ isod);
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r CCUHP; ac yn
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gymhwysiad posibl y Mesur i bersonau sydd wedi cyrraedd 18 oed, ond nad ydynt yn 25 oed eto. Yn dilyn ymgynghoriad (gweler ‘gwybodaeth gysylltiedig’ isod) penderfynwyd peidio â chymhwyso’r Mesur i’r grŵp oedran hwn.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Yn unol ag adran 11 daeth y Mesur i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill, ar 16 Mai 2011).

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi ei gwneud o dan y Mesur.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Mesur ar 14 Mehefin 2010 gan Huw Lewis AC, y Dirprwy Weinidog Plant ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Ionawr 2011.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 16 Mawrth 2011.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

  • Cynllun hawliau plant | LLYW.CYMRU
  • Lansiwyd ymgynghoriad yn gofyn “A ddylai Llywodraeth Cymru gymhwyso’r ‘Erthyglau’ yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1 i bobl ifanc 18-24 oed?” gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2012. Cyhoeddwyd adroddiad y Llywodraeth ym mis Mawrth 2013. Yn seiliedig ar yr ymatebion penderfynodd y Llywodraeth beidio â chymhwyso erthyglau’r CCUHP i bobl ifanc 18 i 24 oed.
  • Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 yn gwahodd barn ar ail-lunio’r Cynllun ar gyfer 2021. Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan LLYW.CYMRU: Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021 | LLYW. CYMRU. O ganlyniad i’r ymgynghoriad bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd a hanner yn nodi sut y mae wedi cefnogi hawliau plant. Cyhoeddwyd y cyntaf o’r adroddiadau hyn ym mis Gorffennaf 2023.
  • Hawliau plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Chwefror 2024