Skip to main content

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Bwriad Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yw sicrhau, os yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu, eu bod yn canolbwyntio’n fwy priodol ar anghenion unigol pobl. Mae chwe Rhan i’r Mesur, ac mae Rhannau 1 i 4 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i wella’r ffordd y darperir gwasanaethau: 

  • mae Rhan 1 yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn gofal sylfaenol; 
  • mae Rhan 2 yn rhoi’r hawl i bawb sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael Cynllun Gofal a Thriniaeth; 
  • mae Rhan 3 yn rhoi’r hawl i bob oedolyn sy’n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd gyfeirio ei hun yn ôl at y gwasanaethau hynny; 
  • mae Rhan 4 yn cynnig mynediad i gymorth eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth Rhan 6 (ac eithrio adrannau 53(1) a 54) a’r darpariaethau yn y Mesur sy’n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (hynny yw ar 15 Chwefror 2011), yn unol ag adran 55(1) a (2).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 55(3).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei wneud o dan y Mesur:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 20122012 Rhif 1428 (Cy. 178)29 Mai 2012      6 Mehefin 2012  Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) 
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 20122012 Rhif 1305 (Cy. 166)
 
15 Mai 20121 Hydref 2012    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 20122012 Rhif 1244 (Cy. 152)   8 Mai 2012    8 Mai 2012 a  6 Mehefin 2012    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 20112011 Rhif 2942 (Cy. 318)6 Rhagfyr 2011   6 Mehefin 2012   Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 20112011 Rhif 2500 (Cy. 272)18 Hydref 20116 Mehefin 2012    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Cod Ymarfer ar Rannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010  6 Mehefin 2012  

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Mawrth 2010 gan Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Tachwedd 2010.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
20 Chwefror 2024