Skip to main content

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Nod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yw cryfhau strwythurau a llywodraeth leol yng Nghymru a’r modd y maent yn gweithio i sicrhau bod cynghorau lleol yn estyn allan i ymgysylltu â phob sector o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Y prif amcanion yw:

  • ehangu a chynyddu cyfranogiad mewn llywodraeth leol drwy ganiatáu camau a fydd yn helpu i gael gwared ar rwystrau a datgymhellion i sefyll ar gyfer ethol ar gynghorau lleol;
  • galluogi adolygu a gwella’r strwythurau llywodraethu a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau llywodraeth leol yng Nghymru;
  • gwella rôl cynghorwyr anweithredol (“meinciau cefn”) awdurdodau lleol wrth graffu ar wasanaethau lleol;
  • datblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned yng Nghymru, gan gynnwys eu galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau a chamau gweithredu yn lleol yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd eu rôl gynrychioliadol a’u gallu i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill; 
  • diwygio’r system ar gyfer pennu lwfansau i gynghorwyr; a 
  • caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar gydweithio rhwng awdurdodau lleol, a rhyngddynt hwy a chyrff eraill.

Mae’r Mesur hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu awdurdodau lleol newydd drwy uno dau neu dri awdurdod presennol. Fodd bynnag, dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw llywodraeth leol effeithiol yn debygol o gael ei chyflawni yn un o’r awdurdodau lleol dan sylw y gellir ddefnyddio’r pŵer hwn, drwy ddefnyddio eu pwerau i sicrhau gwelliant parhaus ac, mewn rhai achosion, cydweithio rhwng awdurdodau lleol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Yn unol ag adran 178 daeth y darpariaethau canlynol i rym ar 11 Mai 2011, sef y diwrnod ar ôl i’r Mesur gael y Gymeradwyaeth Frenhinol:

  • adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;
  • Rhan 10 (ac eithrio adran 176);
  • Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).

Daeth y darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011);

  • Rhannau 3 a 4;
  • adrannau 55 a 76;
  • Penodau 2 i 9 o Ran 7;
  • Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).

Mae’r Gorchmynion canlynol hefyd wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 20222022 Rhif 220 (Cy. 70)3 Mawrth 202228 Mawrth 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 20212021 Rhif 243 (Cy. 63)3 Mawrth 20211 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 20162016 Rhif 1220 (Cy. 291)13 Rhagfyr 20166 Ionawr 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 20132013 Rhif 3005 (Cy. 297) 27 Tachwedd 201327 Tachwedd 2013Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 20132013 Rhif 1050 (Cy. 112) 30 Ebrill 201324 Mai 2013Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 20122012 Rhif 685 (Cy. 93)4 Mawrth 201231 Mawrth 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Mesur ar 12 Gorffennaf 2010 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 15 Mawrth 2011.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
14 Mai 2024