Skip to main content

Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010

Daeth Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gyfraith ym mis Medi 2010 ond cafodd ei ddiddymu wedyn gan adran 279 o Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016. 

Roedd Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i’r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru weithio mewn partneriaeth i lunio, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd y byddai’r Mesur hwn yn llenwi’r bylchau yn narpariaeth gwasanaethau drwy ddarparu fframwaith statudol newydd. Yn benodol, roedd y Mesur yn gwneud darpariaeth i sicrhau: 

•    bod gan ofalwyr yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir i’w cefnogi yn eu rôl ofalu; a
•    bod asiantaethau statudol yn ymgysylltu’n briodol â gofalwyr fel partneriaid wrth ddarparu gofal, gan eu cynnwys ar bob lefel wrth asesu, darparu a gwerthuso trefniadau gofal.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Roedd y Mesur yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Gweinidogion Cymru trwy orchymyn. Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012
        
    
2012 Rhif 282 (Cy. 46)3 Chwefror 201229 Chwefror 2012    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
   
    
2011 Rhif 2939 (Cy. 315) 6 Rhagfyr 2011 1 Ionawr 2012   Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Mesur ar 25 Ionawr 2010 gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 21 Medi 2010.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (fersiwn terfynol). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Tachwedd 2010.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
19 Chwefror 2024