Skip to main content

Mesur Tai (Cymru) 2011

Nod y ddarpariaeth ym Mesur Tai (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yw cefnogi’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy yn fwy effeithiol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn cynnwys dwy elfen gyffredinol sy’n:

  • caniatáu i awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i atal dros dro yr hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael sydd gan denantiaid darparwr tai cymdeithasol yng Nghymru. Gallai’r hawliau gael eu hatal ar gyfer holl ardal yr awdurdod neu ran ohoni, am gyfnod o hyd at 5 mlynedd i ddechrau, a chaiff yr awdurdod wneud cais am estyniad i’r cyfnod hwnnw;
  • rhoi i Weinidogion Cymru bwerau ehangach o ran rheoleiddio ac ymyrryd ynghylch darparu tai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth Rhan 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011) yn unol ag adran 90(1).

Daw darpariaethau eraill y Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 90(2).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Enw RhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 20122012 Rhif 2090 (Cy. 240)  9 Awst 20123 Medi 2012 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Tachwedd 2010 gan Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog Tai ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 22 Mawrth 2011.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Chwefror 2024