Skip to main content

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynghylch teithio i’r rhai sy’n derbyn addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant yn ôl a blaen i ysgolion neu fannau eraill lle maent yn ei dderbyn.

Prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r Mesur yw:

  • cynyddu’r hawl i gludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol;
  • ailddeddfu’r hawl i gludiant am ddim i blant ysgol uwchradd os ydynt yn byw dair milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf;
  • darparu hawl i gludiant am ddim i’r ysgol os yw’r rhieni am i’w plentyn gael ei addysgu mewn ysgol o natur grefyddol, yn amodol ar feini prawf o ran oedran/pellter, os nad yw’r ysgol addas agosaf o natur felly;
  • cyflwyno gofyniad penodol i asesu a darparu ar gyfer anghenion plant sy’n derbyn gofal ac egluro’r trefniadau talu cysylltiedig rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cod ymddygiad (y Cod Ymddygiad wrth Deithio ar gyfer Cymru-gyfan) mewn perthynas â theithio yn ôl a blaen i fannau dysgu a mynnu bod hyn yn dod yn rhan o bolisi ymddygiad ysgol; a
  • rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol newid amseroedd sesiynau ysgol os gall hynny wella trefniadau cludiant neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth adran 27 i 29 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Chwefror 2009), yn unol ag adran 28(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 28(2).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Mesur:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) 20102010 Rhif 192 (Cy. 27)2 Chwefror 2010    

 
 
1 Ebrill 2010Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20092009 Rhif 569 (Cy. 53)9 Mawrth 2009   1 Ebrill 2009Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 15 Ebrill 2008 gan Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 30 Medi 2008.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Llywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Rhagfyr 2008.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
22 Chwefror 2024