Skip to main content

Prif gynghorau

Yn y bôn, mae llywodraeth leol yng Nghymru’n cynnwys gweinyddu cyfres o bwerau a dyletswyddau a nodir mewn amrywiol statudau, gan gynghorau a etholir yn lleol. At ddibenion llywodraeth leol, rhennir Cymru yn 22 o siroedd a bwrdeistrefi sirol, a gaiff eu disgrifio hefyd yn ‘brif ardaloedd’. Ar gyfer pob prif ardal mae cyngor 'sir' neu gyngor 'bwrdeistref sirol', y cyfeirir atynt hefyd yn ‘brif gyngor’.

Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â’r cyfansoddiad a phwerau cyffredinol prif gynghorau wedi’i nodi yn y Deddf Llywodraeth Leol 1972 (LGA 1972) a symleiddiodd strwythur mwy cymhleth y ddeddf flaenorol. Roedd y Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi llwyr ailstrwythuro llywodraeth leol yng Nghymru a gwnaed llawer o hyn trwy ddiwygiadau i LGA 1972. Er bod LGA 1972, felly, wedi’i diwygio’n sylweddol ers ei deddfu, mae’n parhau i ddarparu fframwaith sylfaenol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru rôl oruchwylio gyffredinol, mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru ac maent yn pennu ac yn ariannu’r rhan fwyaf o refeniw blynyddol a setliadau cyfalaf y prif gynghorau. Mae mwyafrif swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan LGA 1972 a deddfiadau eraill yn ymwneud â phrif gynghorau bellach yn ymarferadwy gan Weinidogion Cymru. Felly mae gan Weinidogion Cymru amrywiaeth o bwerau gweithredol yn ymwneud â threfniadaeth a gweithrediaeth prif gynghorau.

Mae LGA 1972 (fel y’i diwygiwyd) yn sefydlu’r 22 o brif ardaloedd ac yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â’r pwerau, y cyfansoddiad ac aelodaeth prif gynghorau. Mae gan bob prif gyngor enw’r sir neu’r fwrdeistref gyda’r gair/geiriau ychwanegol ‘cyngor’, 'cyngor sir' neu ‘gyngor bwrdeistref sirol’, neu yn Saesneg ‘council’, ‘county council’ neu ‘county borough council’. Mae’r 22 prif ardal ynghyd â’u henwau Cymraeg a Saesneg wedi’u nodi yn Atodlen 4 i LGA 1972. Mae adran 74 o LGA 1972, fodd bynnag yn caniatáu i brif gynghorau newid eu henwau trwy fwyafrif o ddwy ran o dair o’r bleidlais mewn cyfarfod a gaiff ei gynnull yn arbennig ac mae nifer o brif gynghorau wedi arfer eu hawl i wneud hynny. Rhaid cyflwyno hysbysiad o newid enw o dan adran 74 i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Gweinidogion Cymru.

Mae prif gyngor yn gorff corfforaethol ac mae ganddo’r swyddogaethau a roddwyd iddo trwy statud. Mae prif gynghorau’n darparu gwasanaethau megis addysg, gofal cymdeithasol, cynllunio, sbwriel ac ailgylchu, pennu a chasglu’r dreth gyngor a chasglu trethi annomestig. Mae prif gynghorau’n gweithredu hefyd fel awdurdod addysg, awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, awdurdod trwyddedu ac awdurdod cynllunio.

Gelwir aelodau prif gynghorau yn gynghorwyr a chânt eu hethol gan yr etholwyr ar gyfer yr ardal honno yn unol â LGA 1972 a’r Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Mae cynghorwyr yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad y darperir ar eu cyfer o dan y Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cafodd Gorchymyn Awdurdod Lleol (Cod Ymarfer Enghreifftiol) (Cymru) 2008 ei lunio o dan yr LGA 2000, ac mae'n darparu cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau prif gynghorau.

Mae pob prif gyngor yng Nghymru’n gweithredu trefniadau gweithredol o dan Ran 2 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, sy’n golygu bod llawer o bwerau’r cyngor yn cael eu gweithredu gan Gabinet a etholir gan eu haelodau.

Rhaid i brif gyngor weithredu mewn modd sy’n gydnaws â’r hawliau a warentir trwy’r Confensiwn er Gwarchod Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol a’u hymgorffori i gyfraith y DU trwy’r Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae penderfyniadau a wneir gan brif gynghorau wrth weithredu eu swyddogaethau cyhoeddus yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol er bod rhai achosion lle mae mecanwaith apêl penodol wedi’i ddarparu ar ei gyfer mewn statud.

Er nad yw trefniadaeth llywodraeth leol wedi’i heffeithio’n uniongyrchol gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfraith yr UE yn cael effaith ar y ffordd y mae prif gynghorau’n gweithredu eu swyddogaethau mewn meysydd penodol megis caffael cyhoeddus, cynllunio a chyflogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021