Skip to main content

Rheolaeth dros ddatblygu - apeliadau

Gall apeliadau gael eu gwneud i Weinidogion Cymru yn yr achosion canlynol:

  • gwrthod caniatâd cynllunio neu roi caniatâd amodol;
  • gwrthod, neu roi caniatâd amodol i unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod cynllunio;
  • gwrthod, neu roi caniatâd amodol i unrhyw gymeradwyaeth gan Awdurdod Cynllunio Lleol y mae ei angen dan orchymyn datblygu;
  • methu penderfynu ar gais cynllunio.

Mae Gweinidogion Cymru yn penodi arolygwyr cynllunio i benderfynu ar apeliadau ond mae ganddynt y pŵer i gymryd apeliadau i’w dwylo eu hunain a gwneud penderfyniadau arnynt.

Mae amryw o hawliau apelio eraill yn cael eu cyflwyno ar wahân gan y Deddfau Cynllunio, yn cynnwys:

  • apeliadau gorfodi;
  • gwrthod neu fethu penderfynu ar ganiatâd adeilad rhestredig a
  • chaniatâd ardal gadwraeth;
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau neu
  • fethiant i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â sylweddau peryglus.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021